Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daeru eu bod allan o'r ffordd; ac er hyny myned yr oeddid, a ninnau o'u lledol, hyd at weilgi ddu ddirfawr o faint; a thrwodd yr aethant hwy, a throsodd ninnau, a'm cydymaith yn dal y dwr wrth fy nhrwyn, i'm nerthu rhag archfa yr afon; ac erbyn y gwelwn rai o'r trigolion (canys hyd yn hyn nis gwelswn gymmaint ag un diawl, ond clywed eu llais): Beth, ertolwg, fy nhywysog, y gelwir yr afon farwaidd hon?' ebr fi. 'Afon y Fall!' ebr yntau, 'lle trochir ei holl ddeiliaid ef, i'w cymhwyso at y wlad: mae'r dwr melltigedig hwn,' ebr ef, 'yn newid eu gwedd, yn golchi ymaith bob gweddillion daioni, pob rhith gobaith a chysur.' Ac erbyn gweled y llu yn dyfod trwodd, nis gwyddwn i ddim rhagor gwrthuni rhwng y diawliaid a'r damniaid. Chwennychai rhai o honynt lechu yng ngwaelod yr afon, a bod yno fyth fythoedd yn tagu, rhag cael ym mlaen waeth lletty; ond fel y mae'r ddiareb, "Rhaid i hwnw redeg y bo diawl yn ei yru;" felly gan y diawliaid oedd o'u hol, yr oedd yn gorfod i'r damniaid hyn fyned ym mlaen hyd y feisdon ddinystriol i'w dienydd tragwyddol; lle gwelais innau, ar y golwg cyntaf, fwy nag a all calon dyn ei ddychymmyg, chweithach tafod ei draethu, o arteithiau a dirboenau; a digon oedd gweled un o honynt er gwneyd i'r gwallt sefyll, i'r gwaed fforu, i'r cnawd doddi, i'r esgyrn ymollwng, ie, i'r ysbryd lewgu. Beth yw polioni neu lifio dynion yn fyw, tynu'r cnawd yn dameidiau â gwrthrimynod[1] heirn, neu friwlio[2] cig â chanwyllau o fesur golwyth, neu wasgu penglogau yn lledfenau[3] mewn gwasg, a'r holl ddirmyg erchyllaf[4] fu erioed ar y ddaiar? Nid ydynt oll ond megys difyrwch wrth un o'r rhai hyn. Yma, fil can mil o floeddiadau ac ebychiau hyllgryg,[5] ac ocheneidiau cryfion; draw wylofain croch, ac aruthrol gri yn eu hateb; ac mae udfa cŵn yn ber fiwsig flasus wrth y lleisiau yma. Pan aethom ronyn ym mlaen o'r feisdon felltigedig i wyllt Distryw, wrth eu tân eu hunain, canfum aneirif o feibion a merched yma a thraw; a diawliaid heb rifedi, ac heb orphwys, â'u holl egni, yn dal byth

  1. Gefeiliau. Gweler Geiriadur y Dr. Owain Puw, d.g. Gwrthrimyn.
  2. 'Briwlio' (Seis, broil; Ffr. brûler)=briwlian, briwlio; rhostio megys ar alch neu ar farwor.
  3. Lledfen yw peth tenan, gwastad, megys llech, a'r cyffelyb; peth a fo wedi ei ledu a'i wasgu yn lled deneu. Gorwedd yn lledfen-gorwedd yn ei hyd gyhyd, â'i faglau ar led; gorwedd yn aflêr o'i hyd gyhyd.
  4. Neu, 'erchyll a fu.' Erchylla fu,' arg. 1703.
  5. Hyll a chryg; erchyll a chryglyd.