Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dydd arall, odid a ddaethwn i yma.' 'O,' ebr diawl, 'nid oes genym fater er dywedyd i chwi'r caswir yma; o blegid nid rhaid unon yr ewch chwi yn ol bellach i ddywedyd chwedlau.'

Tu isaf i'r gell yma gwelwn ryw gwm mawr, ag ynddo megys myrdd o domenydd anferth yn gwyrdd-losgi; ac erbyn nesäu, gwybum wrth eu hudfa, mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a'r fflamau cethin yn clecian trwyddynt. Y pantle yna,' eb yr Angel, 'yw lletty'r gwŷr a ddywedent wedi gwneyd rhyw fawrddrwg, "Haro! nid fi yw'r cyntaf; mae i mi ddigon o gymheiriaid:" ac felly gweli eu bod yn cael digon o gymheiriaid, i wirio eu geiriau, ac i chwanegu eu gofid.'

Gyfeiryd â hyn yr oedd seler fawr, lle gwelwn nyddu dynion fel nyddu gwdyn, neu sicio[1] cynfasau. Atolwg,' ebr fi, 'pwy ydyw y rhai hyn?' Dyma'r Gwawdwyr,' ebr ef; 'ac o wir wawd arnynt, mae'r diawliaid yn profi a ellid eu nyddu hwy cyn ystwythed a'u chwedlau.'

Is law hyn ronyn, prin y gwelsom ryw garchar-bwll arall tra thywyll; ac yno yr oedd pethau a fuasai yn ddynion, â wynebau fel penau bleiddgwn, hyd at eu cegau mewn siglen; ac yn cyfarth cabledd a cholwydd yn gynddeiriog, tra caent y colyn allan o'r baw. Yn hyn, dyma gadfa[2] o gythreuliaid yn dyfod heibio; a chyrhaeddodd[3] rhai frathu deg neu ddeuddeg o'r diawliaid a'u dygasai hwynt yno, yn eu sodlau. Gwae, distryw, uffern-gwn!' ebr un o'r diawliaid a frathesid, ac a darawodd ar y siglen, onid oeddynt yn soddi yn eigion y drewi. Pwy a haeddai uffern well na chwi, a fyddai yn hel ac yn dyfeisio chwedlau, ac yn sibrwd celwydd o dŷ i dŷ, i gael chwerthin wedi y gyrech yr holl fro benben â'u gilydd? Beth ychwaneg a wnai un o honom ninnau?' 'Dyma,' eb yr Angel, 'letty yr Athrodwyr, yr Enllibwyr, a'r Hustingwyr, a phob llyfrgwn cenfigenus, a anafant fyth o'r tu cefn, â dyrnod neu â thafod."

Oddi yno ni aethom heibio i walfa fawr, ffieiddiaf a'r a welswn i eto, a llawnaf o bryfed, a huddygl, a drewi. 'Dyma," ebr ef, 'le'r gwŷr a ddysgwylient nef am fod yn ddifalais, sef yn ddiddrwg ddidda.'

Nesaf i'r drewbwll yma, gwelwn dyrfa fawr, yn eu heistedd,

  1. Sicio'=yn briodol, gwlychu, mwydo; gwasgu neu faeddu yn wlych: ond yma, gwasgu, nyddasgu, neu nydd-droi: Seis. wring.
  2. Torf, tyrfa, haid, lluaws.
  3. Cyrhaedd=cynnyg, ceisio, osio. Cymh. t. 86.