Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

breninol fy hun, ac a lyncaf y cwbl oll; ni cheir dyn ar y ddaiar i addoli'r Goruchaf mwy.' Ac ar hyn fe roes hedlam[1] cynddeiriog i gychwyn, yn un ffurfafen o dân byw; ond dyma'r dwrn uwch ei ben yn gwyntio'r follt ofnadwy, onid oedd e'n crynu yng nghanol ei gynddaredd; a chyn ei fyned e'n neppel, llusgodd llaw anweledig y cadno yn ei ol heb waethaf ei ên, gerfydd y gadwyn: ac yntau yn ymgynddeiriogi yn saith pellach; a'i lygaid yn waeth na dreigiau; mwg dudew o'i ffroenau; tân gwyrddlas o'i geg a'i berfeddau; gan gnoi ei gadwyn yn ei ofid, a sibrwd cabledd ochryslawn, a rhegfeydd tra arswydus.

Ond wrth weled ofered oedd geisio ei thori, neu ymdynu â'r Hollalluog, fe aeth i'w le, ac ym mlaen yn ei ymadrodd beth gwareiddiach, eto yn ddau mileiniach. Er na threchai neb ond y Taranwr Hollalluog fy nerth i a'm dichell; eto gan fod yng ngorfod ymostwng i Hwnw heb y gwaethaf, nid oes genyf mo'r help; ond mi a gaf fwrw fy llid yn is ac yn nes ataf, a'i dywallt yn gafodydd ar y rhai sy eisys tan fy maner i, ac yng nghyrhaedd fy nghadwyn. Codwch chwithau, swyddogion distryw, rheolwyr y tân anniffoddadwy; ac fel y bo fy llid a'm gwenwyn i yn llenwi, a'm malais yn berwi allan, taenwch chwithau'r cwbl oll yn ddichlyn rhwng y damniaid, ac yn benaf y Cristianogion; cymhellwch y peiriannau penyd hyd yr eithaf; dyfeisiwch; dyblwch y tân a'r berw, oni bo'r peiriau yn codi yn damchwëydd tros eu penau; a phan font mewn eithaf poen annhraethawl, yna gwawdiwch, gwatwerwch hwynt, ac edliwiwch; a phan ddarffo i chwi'r cwbl a fedroch o ddirmyg a chwerwder, brysiwch ataf fi, a chewch ychwaneg.'

Buasai gryn ddystawrwydd yn uffern er's ennyd, a'r poenau yn hydr[2] creulonach wrth eu cadw i mewn. Ond yr awran torodd yr ostega barasai Luciffer, pan redodd y cigyddion erchyll, fel eirth newynllyd cynddeiriog, ar eu carcharorion;

  1. 'Hedlam' (hed a llam)=llam neu naid ar hedeg; llam hedegog; cam pan y bo'r troed olaf wedi ymadael â'r llawr, cyn y bo'r blaenaf yn cyffwrdd ag ef.
  2. Yn hydr creulonach=yn llawer mwy creulon. Hydr=hy, eofn, dewr, pybyr, cryf. Oddi yma y daw hytrach, cyhydr, cyhydrey, &c. Gwel y Dr. Dafis, d. g.
    Hydr fydd dwfr ar dal glan.'—Diareb.
    'Gan roddi i'n tywysogion gwbl barch a goruch-fawredd yn fwyaf ac yn hytraf y gallom.—Morus Cyffin.

    Heddyw tydithau haeddol
    Sy ddewraf, hydraf o'u hol.—I. B. Hir.