Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lonaid eu bol o gyfraith. Y Recordwyr, teflwch hwy yr awran i fysg y Maelwyr, a fydd yn attal neu yn rhagbrynu yr yd, ac yn ei gymmysgu; yna gwerthu yr ammhur yn nwbl bris y pur-yd: felly hwythau, mynant am gam, ddwbl y ffis[1] a roid gynt am uniondeb. Am y ceisbyliaid, gedwch hwy yn rhyddion, i bryfeta,[2] ac i'w gyru i'r byd i geunentydd a pherthi, i ddal dyledwyr y goron uffernol: o blegid pa'r diawl sy o honoch a wna'r gwaith yn well na hwy?'

Yn y man dyma ugain o ddiawliaid, fel Scotsmyn, a phaciau traws ar eu hysgwyddau, yn eu disgyn o flaen yr Orsedd ddiobaith; a pheth oedd ganddynt erbyn gofyn, ond Sipsiwn. 'Ho!' ebr Luciffer, 'pa fodd y gwyddech chwi ffortun rhai ereill cystal, ac heb wybod fod eich ffortun eich hunain yn eich tywys i'r fangre hon?' Nid oedd ateb gair wedi synu weled bethau gwrthunach na hwy eu hunain. "Teflwch hwy,' ebr y Brenin, 'at y Witsiaid i'r cachdy uchaf, am fod eu hwynebau mor debyg i liw'r baw. Nid oes yma na chathod, na chanwyllau brwyn iddynt; ond gedwch iddynt gael llyffant rhyngddynt unwaith bob dengmil o flynyddoedd, os byddant dystaw, heb ein byddaru a'u gibris dy glibir dy glabar[3]

Yn nesaf i'r rhai hyn, daeth, debygwn i, ddeg ar hugain o Lafurwyr. Synodd ar bawb weled cynnifer o'r alwedigaeth onest hòno, ac anamled y byddont yn dyfod: ond nid oeddynt o'r un fro, nac am yr un beiau. Rhai am godi'r farchnad; llawer am attal degymau, a thwyllo yr Eglwyswr o'i gyfiawnder; ereill am adael eu gwaith i ddilyn boneddigion, ac wrth geisio cydgamu â'r rhai hyny, tori eu ffwrch; rhai am weithio ar y Sul; rhai am ddwyn eu defaid a'u gwartheg yn eu penau i'r Eglwys, yn lle ystyried y gair; ereill am ddrwg fargenion. Pan aeth Luciffer i'w holi, O! yr oeddynt oll cyn laned a'r aur; ni wyddai neb arno ei hun ddim a haeddai'r fath letty. Ni choelit ti rhawg daclused esgus oedd gan bob un i guddio ei fai, er eu bod eisys yn uffern o'i herwydd; a hyny dim ond o ddrygnaws i groesi Luciffer, ac i geisio bwrw anghyfiawnder ar y Barnwr cyfion a'u damniasai. Eto buasai rhyfeddach genyt ddeheued yr oedd y Fall fawr yn dynoethi'r briwiau, ac yn ateb eu coeg esgusodion hyd adref.

  1. 'Ffis'=fees: tâl, gwobr.
  2. Hel neu ddal pryfed; gwybeta, gwibiaw o fan i fan.
  3. Geiriau gwneuthur. Cymharer t. 53, n. 2.