Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arall.

Clochdy esgobty ...[1] —pinacl
Pennaeth coed y ffynnon;
Tŵr cerrig ar frig y fron,
A chryd gwyn uwch rhyd Grynon.
—ELLIS PRYS, Plas Iolyn.[2]


XI. Sen i Sion ab Ifan, yr hwn a anfonwyd o Fangor
i Faen Twrog ar frys, a'r hwn a
dariodd yn rhy hir yng
Ngwyl Mab Sant oedd ym Medd Celert,—Wyl Fair gyntaf.

Er gweled merched, er medd,—neu er cerdd,
Er cwrddyd llu mwynedd;
Gwell gan hen ddolbren senedd,
Dre' Fedd Celert bert heb wedd.
—EDMWND PRYS.[3]



XII. Cyngor rhag y Frech Wen.—[yn 1630.]

Cais anian môr farch, cais winwydd heb—lenwi,
Bloneg hwch yn drydydd;
Bid arian byw'n bedwerydd,
Ag o'r Frech Fawr gwr iach fydd.
—Pwy?



XIII. Cwestiwn pwysig, ac yn perthyn i'm gwraig fy hun.

Meddwch, a doedwch ai da—yw'r hwsiwr
Aroso'i chwedleua
Ar hyd y dydd hirddydd ha'
Tan y nos yn y ty nesa'?
—RICHARD ABRAM.[4]



XIV. Llef ar y byw o'r llwch.

Gwel gaethed, saled fy seler,―ystyr,
A gostwng dy falchder;
O Dduw! 'does ar y ddaeër
I weis i fyw ond oes ferr.
—EDWARD MORUS, Perthi Llwydion.[5]



XV. Wrth glywed y Bytheiaid yn hela.

Clywais fawl argais fal organ—beraidd,
Y more'r eis allan;
Pob mân—lais, pibau mwynlan
Hyd y coed, huaid a'u cân.

Cydlais yw'r adlais...[6] —yn cweirio
Carol pryfes feindroed;
Llais mwyn, glan-gais mewn glyngoed,
Cainc hydd cwm, cân cywydd coed.

Melus-lais cu-adlais cwn,—y bore
Sy' beraidd ar wyndwn;
A chorn sydd yn chwyrnu swn
Yn ganiad,—awn ac unwn.
—EDWARD MORUS, Perthi Llwydion.



XVI. Dwrdio'r Gigfran am waeddi.

Gwenwyn mewn tewlwyn wyt ti—y gigfran
Ddu, gegfras, fawr ddifri;
Osgedd cas, ysgwyddau ci,
Tewa' gwddw,—taw a gwaeddi!
—D. PARRI.



XVII. Diolch am y glaw ar ol hir sychdwr.

Dyma'r gwlith a'r gwenith gwyn,—dyma'r bir,
Dyma'r bara â'r enllyn;
Dyma'r mêl a'r cwŷr melyn
O byrth Duw i borthi dyn.
—Pwy?



XVIII. Cyngor i'r Gwyryfon.

'Mogeled merched pob man,—bâr ydyw,
Briodi dyn trwstan;
Pob mawr ei chlod, pob merch lân,
Cyfflybol y caiff leban.
—MICHAEL PRICHARD, Llanllyfni.[7]


XIX. Cyngor rhag meddwi.

Ond ffol yw'r gŵr a gymro
Gan ofer wyr ei hudo,
I dafarnau, creiriau crôg,
I ddifa ei geiniog yno.

Pan elo fo'n gleiriechyn
Ni chaiff mor gŵyn gan undyn,
Ond ei alw ar ei ol,—
"Yr hen anfuddiol feddwyn !"
—MICHAEL PRICHARD.



XX. Ystyriaeth mewn sobrwydd, ar ol meddwi.

Cydwybod meddwdod nis mynn—ond amhwyll
Ar domen y gelyn;
Gorffwyllo, dawnsio mae dyn,
A'r diawl yn canu'r delyn.
—EVAN EVANS, neu Ieuan Brydydd Hir.[8]


  1. Beth yw y geiriau priodol?
  2. Môr-gadben enwog yn amser Bess. Ffitiodd long ryfel ar ei draul ei hun i fyned yn erbyn y Spaeniaid gwrthryfelgar, a lluniodd gywydd doniol ar dermau morwrol. Y mae hwn o'm blaen. Ceir wmbreth o'i waith yn yr Amgueddfa Brydeinig.
  3. Yn ei flodau o 1541 hyd 1624.
  4. Ceir ei waith yn "Carolau a Dyriau Duwiol gwaith y prydyddion goreu yng Nghymru, yr hyn a argraffwyd yn ofalus yn y flwyddyn 1696. Brodor o Ddyffryn Clwyd oedd Rhisiart Abram.
  5. Bu y bardd swynol farw oddicartref yn Essex, tra ar ei deithiau fel porthmon gwartheg, yn 1689.
  6. Methais a deongli y gair synwyrol. P'run ydyw?
  7. Bu farw yn 1731, yn 21 oed. Y mae ei fedd di—gofnod ym mynwent Llanfechell, Mon.
  8. Bu farw ym mro ei faboed, sef Cynhawdref, Lledrod, yn Awst 1789, oedran 59 mlwydd.