Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXI. Trachwant dynion am ddiod gadarn.

Fe baid anifeiliaid, pan fo'n—di-ofal,
Nid yfant ond digon;
Ond rhyfedd briw agwedd bron,
Ffud anhawdd, —ni phaid dynion.
—RICHARD PHYLIP.[1]


XXII. Dymuniad y Marw.

Ar lêch ym mynwent Ynys Cynhaiarn.


Na agor fy nôr fain wryd—ogof,
Lle mae gwiwgorff llychllyd;
I orwedd gad fi'n ngweryd,
Is clo gwern nes galw i gyd.
—SION PHYLIP, o Fochras.[2]



XXIII. Cyngor i wragedd cwerylgar.
Ar ol gweld y "Gadair Goch" ym Miwmaris.

Chwi'r gwragedd rhyfedd eu rhoch—ysgeler,
Ysgowliwch pan fynnoch;
E' bernir a'ch bai arnoch,
Gyda'r gair i'r Gadair Goch.
—WM. PHYLIP, o Hendre Fechan.[3]



XXIV.Wrth glywed cloch tŵr cloc Eglwys Crist, Rhydychen, yn tiwnio, 1738.

Ai "Tom" yw'r Gloch drom a glywwch draw—'n rhuo?
Mae'n rhywyr ymadaw;
A digllon wyr a degllaw
Cyn y nos yn canu naw.
—WM. WYNNE.[4]



XXV. Ochenaid, wrth gladdu fy hen athraw anwyl Owen Gruffydd, o Lanystumdwy.

Rhoi'r bardd mwyn, cu-fardd mewn cist—dderw
I'r ddaearen athrist;
Edrych yr wyf yn odrist—
Yn bruddaidd, drumaidd drist.
WM. ELIAS.[5]



XXVI. I Spaengi Mr. Wm. Fychan, aer Corsygedol [yn 1731].

Spaengi tew, crychflew, crochfloedd—echrys-flaidd
A chroesflew arth ydoedd;
Rhysfin, cresflin du, croesfloedd,
Ceg oer flwng,—ci a garw floedd.
—WM. ELIAS, Plas y Glyn, Mon.



XXVII. Anrhegion i wr bonheddig.

Ereswiw ffyn iddo roisoch,—a gast—
Daeargast ddu dorgoch,
I dagu ffwlbart dugoch,
Ac i rwygo cadno coch.
—Pwy?



XXVIII. Y Cyfreithwyr (yn 1740).

Cyfreithwyr, noethwyr nythod,—amla'
Heb deimlo cydwybod;
Ffy llawer o ffau y llewod
Yn din y glêr,—tlodion o glod.
—Pwy?



XXIX. "Pridd i'r pridd, a lludw i'r lludw."

Pridd hen ddaearen oeredd—ydwyf,
Ar redeg i'r dyfnfedd;
A lludw yn wir—llwyd iawn ei wedd,—
Iselwael yw fy sylwedd.
—MICHAEL PRICHARD, Llanllyfni.



XXX. Y penglog yn llefaru
(a wnaed wrth weld Ynfytyn yn cicio penglog mewn mynwent).

Mi fum i fel dydi'r dyn,—yn f'einioes
Yn fânwallt brigfelyn;
Ti ei di fel fi'n fonyn,
A llwch fel gweli fy llun.
—WM. WYNNE, Llangynhafal.



XXXI. Rhybudd i bawb.

Ti sathrwr, baeddwr beddau—hyd esgyrn
O! dod ysgafn gamrau;
A chofia ddyn,—briddyn brau,
Y dwthwn sethrir dithau!
—JOHN PARRY, Llaneilian.[6]



XXXII. Cysegredigrwydd yr Eglwys.[7]

Anneddfawr sanctaidd noddfa,—gôr breiniol
Ger bron Duw a'i dyrfa;
Er dim na thyred yma
Y dyn, ond ar feddwl da.
—MATHEW OWEN, Llangar, Meirion.[8]


  1. Brawd i William, Sion, a Dafydd Phylip, o Ardudwy. Yr oedd yn ei fri tua 1624.
  2. Bu foddi ym Mhwllheli Wyl Fair 1600. Canodd Ed. Prys a Huw Cynfal yn deimladwy ar ol ei golli. Gwelir ei fedd—argraff tarawiadol a chywrain yn Llandanwg. Ceir gwaith Huw Llwyd ar y garreg.
  3. Bu farw yn 1669. Oed 92 mlwydd.
  4. Bu farw yn Llanfihangel, Dyffryn Clwyd, Mawrth 22ain, 1760. Oed 55 mlwydd. Ystyria rhai ei gywydd darluniadol o'r "Farn" yn hafal i un Goronwy.
  5. Gefail, Plas Hen, Eifionnydd. "Disgybl y tafod" oedd, meddai efe ei hun i'r hen fardd-achyddwr toreithiog o Lanystumdwy. Englynion o'i waith ef sydd yn gerfiedig ar ei feddfaen. Symudodd i Blâs y Glyn, Mon, ac yr oedd yn gyfaill calon i Goronwy a Llew Mawr Mon. Yr oedd yn ei fri mwyaf tua 1746.
  6. Yn ei flodau goreu tua 1808.
  7. Y mae'r englyn hwn yn gerfiedig uwchben pyrth a drysau llu mawr o hen eglwysi ein gwlad, yn enwedig rhai Meirion,—sef Llan Frothen, eglwysi Cwmwd Ardudwy; Talyllyn; Machynlleth, &c. Mathew Owen luniodd yr englyn, ac nid Huw Morus na Goronwy Owen, fel yr honnir mewn rhai cylchgronau.
  8. Ceir ei waith yn "Carolau a Dyriau Duwiol," 1696, a "Blodeugerdd Cymru," 1759. Lluniodd gywydd marwnad dan gamp i'w eilun-ryfelwr, Syr John Owen o'r Clenennau.