Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ai peth Iberaidd oedd derwyddiaeth? Y gromlech. Y bedd a'r ty. Da a drwg derwyddiaeth.

Yr hen dduwiau,-Lludd Llaw Arian, Myrdain, Llyr, Elen Luyddawg; Mâth, Gwydion ab Don, Ceridwen, Dwynwen, &c.; Ellyll, Naf, Angeu, Tegid, &c.

Cartrefi'r hen grefydd, -Yr Allor Goch, Gorsedd Arberth, Cader Idris, Ffynnon Gybi, Ffynnon Gwenffrewi.

PENNOD XII Y GREFYDD NEWYDD

Dechreu hanes eglwys y Cymry. Cyfnod y tyfu, 200-300, yng ngoleu tanau'r erlid. Cyfnod y trefnu, 300—400 ; esgobion Prydeinig yng Nghynghorau Arles a Nicea; tystiolaeth y Tadau; Padrig. Cyfnod yr heresiau, 400—500; Pelagius ac Awstin; brwydr Haleliwia; llif y barbariaid yn gwahanu Eglwys y Cyfandir ac Eglwys yr Ynys. Cyfnod y Saint, 500—500; Dyfrig, Deiniol, Cyndeyrn, Cybi, Teilo, &c.; y deyrnas a'r esgobaeth.

Eglwys y Cymry ac Eglwys y Saeson wyneb yo wyneb; Awstin Fynach, Gregori, Derwen Awstin.

TREM YN ÔL .

Mynyddoedd yn aros; y coed a'r llysiau newydd. Yr arth, y blaidd, yr afanc, yr eryr; yr anifeiliaid dor; traddodiad am foch a gwenyn.

Tonnau o genhedloedd yn troi'n haenau cymdeithas ; gwaed cymysg Iaith ac enw. Y taeog a'r teuluog. Cyfraith a llys- enwau. Ty a theulu.

NODION.-Hen raniadau Cymru, 14; Ffynhonellau hanes, 22, 38, 85; y goncwest Seisnig, 41, 46; 125, 6.