Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addurnid hwy'n chwanegol â gemau o berfeddion Arabia Fendigaid neu berlau o waelodion môr eigion.

"Mi bwrcasai ef ambell lyfr er i'r rhan fwyaf o'i gynnwys beidio â bod ar bwnc dirwest, os yn waith rhyw wr cyhoedd ymhlaid dirwest, a rhyw rannau ohono yn dwyn perthynas â'r pwnc, megis llyfr Arnot ar y Diarhebion. Mi goeliaf mai uwchben ei lyfrau dirwest y cawsid ef pryd na byddai'r pregethwr am y Sul yn ddirwestwr. Hoff ganddo fel darllen Sul oedd Chwe Phregeth Lyman Beecher, a llyfryn Guthrie,—The City: its Sins and Sorrows. Cof gennyf am y Temperance Sermons, ag yr oedd pregeth gan Arnot yn un ohonynt, ac fel yr ymddifyrrai yn rhai o'r rheiny. Bwyd amheuthun ganddo fuasai gwrando ar y cyffelyb i'r rhai hynny bob nos Sul, dyweder, drwy gorff gydol blwyddyn. Ar wahân i'r Beibl, nid wyf yn tybied fod ganddo lyfr yn y byd na ddygai ryw berthynas â'r hoff bwnc, heblaw'r Redi Recnar a'r Gangen o Rawn Camphir a'r Gwallt Samson gan Asaria Shadrach. Drwy ba ffawd y daeth y rhain i blith ei lyfrau dirwest) nis gallaf ddyfalu. A thebygaf na byddai yntau ei hun ychwaith yn gwneuthur mwy na bwrw brasolwg ar ryw dudalen neu ddwy ohonynt yn achlysurol.

"Ond gallaf ddywedyd am danaf fy hun, tra bo corff mewn einioes, wedi'r cwbl a ddyweder, na byddaf heb ryw barch gwirioneddol i'r hen Forgan Ifan. A gadawer i mi chwanegu y gwn i o'r goreu nad esgeulusai efe mo'r Beibl ychwaith; a golwg fawr oedd ganddo ar ei anffaeledigrwydd ym mhob iot a thipyn ohono. Ni charasai ganfod ôl anadl amheuaeth ar ei loew ddrych am funud awr. Er hynny, mi gredaf mai llawn mwy ei flas yn aml oedd Smith na Samuel, a Murphy na Meica, a Nott na Nahum, a Kirton na Chaniad Selyf, a Guthrie ar Ofidiau'r Ddinas na Galarnad Jeremeia uwchben Caersalem, a Jabez Inwards na'r Jabez arall hwnnw a weddiodd am eangu ei derfynau, ac Arnot na'r Apocryff, yr ysbiai efe i mewn iddo ar dro yn yr hen Feibl teuluaidd. Ac wrth gofio, dyna air a glywais ganddo fwy nag unwaith, ac a welais wedi hynny yn llyfr Esdras,-O chwychwi wŷr, mor nerthol yw gwin, yr hwn sydd yn twyllo pob dyn ar a'i hyfo!

"Nid gwiw ebargofi'r (3) hen Ifan Ifan nwythus, droiog, drwynsur, daglyd. Rhyw swbach o ddyn byrr, sad, ydoedd ef.