Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. 107 Williams ei deimlad, pe cymerai R. Ll., a rhyw sgrifennydd arall a ymyrrodd yn y ddadl, eu llwon nad oedd y breuddwyd ddim yn cyfeirio at ei lyfr ef, na chredai efe monynt byth. Ym- egyr y gwadiad hwnnw yn ddadl yn erbyn yr hyn a eilw ef y grefydd Antinomaidd a oedd wedi ei gosod i fyny yn ein gwlad.' Yn rhifyn Hydref sicrheir gan R. LI. mewn ysbryd llariaidd, y fath nas gellir ei anghredu, nad oedd dim cysylltiad rhwng y breuddwyd a'r Corff Diwinyddiaeth, ac apelia at yr awdwr i ymohebu â'r golygydd er ei sicrhau o hynny, ac er ei sicrhau ymhellach nad oedd R. Ll. mo'r gwr y tybiai Robert Williams, yn ol yr ohebiaeth, y gwyddai ei fod. Nid yw Robert, Williams yn gweled yn iawn ymddiheuro. Efallai nad hawdd cael cipdrem eglurach ar ysbryd taeog yr ymgecraeth ddiwin- yddol nag yma. Mae gan Syr Henry olwg fawr ar Robert Williams, gan y geilw ef yn "fardd, llenor a diwinydd gwych " (t. 75). Yr oedd yr ysbryd dadleu wedi lefeinio meddwl pobl y capel- au. Yn ystod 1827-34 yr oedd Owen Thomas yn gweithio fel saer maen ar gastell y Penrhyn, pan ydoedd ef yn rhywle o ymyl 15 hyd dros 22 oed. Rywbryd yn yr ysbaid hwn, ac am dymor go faith debygid, fe'i rhoddwyd ef ac Isaac Rowlands y Wes- leyad i ddadleu â'i gilydd ar yr awr ginio, fel dau gawr y pleid- iau, ar y pynciau diwinyddol a oedd mewn dadl, a'r gweithwyr i gyd yn gwrando. Fe eddyf Owen Thomas i'r dadleu hwnnw fod o wasanaeth dirfawr iddo. Isaac Rowlands, ar y cychwyn, a gawsai'r trechaf braidd, ebe cofiannydd Owen Thomas. Nid yw ef ei hun yn dywedyd hynny yn yr hyn a sgrifennodd ar y pwnc (t. 46-7). Fe ddywed ddarfod iddo wrth ddadleu dynnu'r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n naturiol a moesol mewn dyn heb wybod wneuthur y gwahaniaeth hwnnw gan neb arall. Yn. y man fe gafodd afael ar Jonathan Edwards ar yr Ewyllys, a darllenodd y llyfr tua saith o weithiau drosodd. Erbyn hynny, fe ddywed, yr oedd yn fwy na choncwerwr ar ei gyd-ddadleuwr, a hwnnw ymlaen mewn dyddiau ragor ef. Dibennodd Isaac Rowlands ei yrfa yn nhueddau Llandwrog. Nid oedd John Thomas ond rhwng 11 a 12 oed pan aeth i weithdy crydd Dafydd Llwyd. Fe aeth yna yn niwedd Hydref, 1832, a bu yno am dair blynedd. Fe ddadleuid yno ar bob math ar gwestiynau, fe ddywedir. Yr oedd Ebenezer Thomas, sef