Dyma'r esgobion, ac amser eu hordeiniad, er oddeutu cy- chwyniad Methodistiaeth yn y cylch: John Warren, 1784-1800; William Cleaver, 1800-1806; John Randolph, 1806-10; H. W. Majendie, 1810-30; Christopher Bethell, 1830-59; Camp- bell, 1859-90; Lloyd, 1890-99. Ceir cyfeiriad yn y Drysorja Hynafiaethol (1838, t. 56) at waith yr Esgob Warren yn dwyn allan argraffiad o'r Beibl Cymraeg. Fe olygodd Cleaver rai o'r clasuron a chanmolwyd ef gan De Quincey. Bu Randolph yn llanw'r naill gadair ar ol y llall yn Rhydychen. Yr oedd Bethell yn awdwr mewn diwinyddiaeth. Yn ei dymor ef, sef yn 1836, fe drefnwyd drwy benderfyniad Cyngor uno esgobaethau Bangor a Llanelwy. Galwyd hynny'n ol yn 1846, sef ar farw- olaeth Esgob Llanelwy, pryd yr oeddid wedi trefnu i'r uniad ddod i weithrediad. Rhoir yr amseriadau yma fel y ceir hwy yng Nghofiant Gladstone gan Morley, I. 192. Cyhoeddodd Lloyd Emyniadur yr Eglwys yn 1897. Fe'i hystyrir yn gasgl o werth. Fe gynnwys amryw emynau a chyfieithiadau o'i eiddo ei hun.
Fe arferir dweyd, ni wyddis ddim ar ba awdurdod, mai Campbell, ac yntau'n Albanwr, oedd yr esgob cyntaf yma a fedrai siarad Cymraeg, er amser y John Evans y crybwyllwyd am dano. Os cywir hynny, yna e fu Bangor heb esgob a fedrai draethu ei feddwl yn Gymraeg am 144 blynedd, a chaniatau fod Campbell wedi dysgu'r iaith pan ddaeth yma. Yr oedd dau o'r esgobion, sef Pearce a Bethell yn dwyn enwau Cymraeg, ond gwyddis y gallasai hynny fod yn eithaf hawdd heb fedr yn yr iaith ei hun. A phrin y gallasai Goronwy Owen fod wedi dy- wedyd yr hyn a adroddwyd eisoes, petae Pearce yn medru Cym- raeg, canys efe oedd yr esgob ar y pryd, sef dros ystod 1747-56. Yn ystod yr 144 blynedd crybwylledig e fu yma gymaint ag un arbymtheg o esgobion. Yn y blynyddoedd neilltuol hynny. yr oedd rhif y bobl yn yr esgobaeth hon a fedrai ddilyn araeth. Saesneg wrth wrando â mesur o ddeall yn gymharol ychydig: mewn rhai rhanbarthau eang, yn cynnwys llawer o gannoedd o bobl, ni cheid prin un yn ddiau. Hynod fod yr awdurdodau wedi penodi esgob ar ol esgob hyd yr unfed arbymtheg, heb. fedru o'r un ohonynt iaith corff mawr y bobl, fel ag i'w llefaru yn rhyw fodd yn ddealladwy; hynod na theimlodd yr un o'r un arbymtheg hynny, debygid, wedi'r penodiad, unrhyw rwymed- igaeth i ddysgu'r iaith honno fel ag i fedru ei llefaru yn rhyw