weddol ddealladwy; a hynotaf i gyd i gorff y bobl orffwys yn dawel dan y cyfryw benodiadau. Nid mor hynod y peth olaf i gyd, ychwaith, ar ol i gorff y bobl droi'n ymneilltuwyr, er na ddigwyddodd mo hynny y rhawg. Dyma'r deonaid am yr un cyfnod: John Warren, 1793-1838; J. H. Cotton, 1838-62; James Vincent Vincent, 1862-76; H. T. Edwards, 1876-84 (edrycher yr Arweiniol i Eglwysi Caer- narvon); Evan Lewis, 1884-1901. Yr oedd Vincent yn frodor o Fangor ac yn wr ymroddedig i'w swydd. Yr ydoedd wedi bod yn rheithor Llanfairfechan yn ystod 1834-62). Yr oedd J. H. Cotton (1780-1862) yn ficar yma yn ystod 1810-38, pan alwyd ef yn ddeon. Ni bu neb clerigwr o fewn y cylch hwn mor fawr ei ddylanwad yn y lle. Ni wyddis ddim, yn wir, pa mor bell yn ol y buasai'n rhaid myned er cael neb i'w gystadlu âg ef. A chymeryd hyd ei wasanaeth i'r cyfrif cystal a'i nodweddiad, feallai y bu ei ddylanwad o fewn y cylch ei hun yn fwy o ran y cyfanswm ohono, nag eiddo'r un gwein- idog yr Efengyl arall o fewn y cylch. Fe gymerodd ei ysbryd- olrwydd ef ffurf gwasanaeth yn hytrach yn fwy na. ffurf defosiwn fel ei arbenigrwydd. Enw a roid arno yn o fynych ydoedd "the good old Dean," ac weithiau " person y dyn tlawd." Fe ymroes i wasanaethu achos addysg gyffredin a chrefyddol. Ei waith ef oedd sefydlu'r ysgol gyntaf i'r dosbarth tlotaf a a fu yma, a gwnaeth hynny, debygid, yn union wedi ymsefydlu yma. Fe gadwodd ei olwg ar achos addysg tra bu yma, sef am ddwy flynedd dros hanner canrif, ac a roes ysgwydd dan y baich ar hyd yr amser hwnnw. Yr oedd ei brofiad crefyddol ar gynllun iachus. Fe wyddis ei fod ef a'r Dr. Arthur Jones yn gryn gyfeillion; ac yr oedd y ddau yn wyr arabeddus cystal a'u bod yn meddu ar ddwyster crefyddol, a'r naill elfen yn y ddau heb lesteirio dim ar weithrediad yr elfen arall. Fe allesid tybio yn hytrach fod y ddwy elfen yn gynorthwy i'w gilydd yn y ddau. A dyma, yn ddiau, sail eu cydymdeimlad â'i gilydd. Sais ydoedd Cotton wedi dysgu Cymraeg yn weddol dda; ac mae'r enghreifftiau o'i arabedd i gyd yn y Saesneg, hyd y gwyddis. Dyma ddwy enghraifft na sylwyd arnynt yn ei gof- iant. Ar ol dwyn ei ran yn rhyw ddadl gyhoeddus, a chael gryn ganmoliaeth gan rywrai, ebe yntau,-"You know Cotton never was worsted!" Wedi cwympo i'r afon Fenai o gwch ryw dro, a rhywrai yn amlygu cydymdeimlad, ataliai yntau hynny,-
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/171
Gwedd