"I only fell into the See (sea)!" sef y Diocesan See neu'r es- gobaeth. Anfynych y bu ei barotach yn y math yma ar arab- edd, sef arabedd geiriau, er y ceid enghreifftiau ardderchog o'r arabedd deallol hefyd, megis yn yr enghraifft yma sy'n cyfleu ei wir brofiad: O! that I had ten thousand iron tongues, A throat of brass and adamantine lungs; My bones of marble made, in steel encased, Wire-drawn my muscles, and whale-bone my waist! My veins of gutta percha thick and tough, My skin of flint, and thin but thick enough; Ubiquitous my body, and my mind Always infallible in every kind; My moments, months; my pennies turned to pounds; I'd give, go, hear, pray, preach, read, run, say, sing, Talk, write, walk, work, beyond all bounds. Give me the man who will not blow away, Melts not in dews of night nor heat of day; Not salt, nor sugar, not a bit the thinner, Loving his duty better than his dinner. Of him (whatever his age) the proverb's just, Better it is to rub out than to rust. Bu farw o annwyd a gafodd ar ddiwrnod oer, gwlybyrog, wrth fyned i holi ysgol ddyddiol yn y gymdogaeth, ac yntau'n 82 oed. Ei glust oedd agored i'r tlawd dan ei gri.. Rhag ofn ei olygon y ciliai gwŷr trawsion, Yr annuw ni safai, gan farw yn ei wydd. Fe wyddai e'r llwybr i feddwl y plentyn. Ei enaid wefreiddiwyd yn atsain cerddoriaeth, Mor felys y pynciai ef glodydd yr Iôr, Ei lais cryf a chwyddai ar dannau tônyddiaeth, Oedd organ ei hunan ynghanol y côr: Ar dabyrddau fy nghlyw mae'i lais eto'n aros, Mor gryf yn ei henaint, mor dyner a mwyn ! Ei gân ydoedd lawn o hudoliaeth yr eos, Yn orlawn o geinion cerddoriaeth a'i swyn. (Robyn Wyn). Yr oedd y Dr. Peter Williams, wedi hynny o Lanbedrog, yn ficar yma yn ystod 1790-1802. Wedi hynny, yn Llanbedrog, y cyhoeddodd efe ei bedair cyfrol o Bregethau Cymraeg, ac, yn 1822, ei argraffiad o Ffydd Ddiffuant Charles Edwards.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/172
Gwedd