Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Thomas Thomas yn ganon trigiannol yn y ddinas yn ystod 1864-77. Bu yn ficar yng Nghaernarvon yn ystod 1837-62. Gwr o ddylanwad a phregethwr poblogaidd. (Edrycher yr Arweiniol i Eglwysi Caernarvon.)

Yr oedd Nicander yn gurad yn y Pentir, sef rhan o blwy Bangor, yn yr adeg yr atafaelwyd y ddau Figaro, fel y soniwyd. Yr oedd gwawdlun o Nicander newydd ymddangos yn y Figaro, yn ei gyfleu mewn ystum ddiystyrllyd eithafol, ac nid annhebyg na fu gan hynny rywbeth i'w wneud â'r atafaelu. Fe ennillwyd cydymdeimlad Nicander âg Ysgol uchel-eglwysig Rhydychen pan ydoedd yn y brifysgol, a thebyg fod hynny yn peri rhagfarn i'w erbyn y pryd hwnnw.

Bu Evan Pughe yn ficar yma dros ystod 1850-63. Fe dynnai sylw fel pregethwr ac yr oedd yn fugail ymroddedig. Fe sefydlodd yma ymwelyddion o blith y merched, ac Ysgol Sul. Symudwyd yr ysgol i'r cathedral yn 1860, a hi oedd y pryd hwnnw, mewn cysylltiad â'r eglwys, yr unig un yn yr iaith Gymraeg yn y ddinas. A sefydlodd yma gymdeithas ddadleuol. Cynhaliai gyfarfodydd canu dan ei arweiniad ei hun, a bu iddynt gryn lwyddiant. Yr ydoedd yn un o ddau olygydd llyfr emynau Cymraeg, a chyhoeddodd yn 1866 gyfrol o bregethau Saesneg.

Bu'r Parch. John Griffith o Gaernarvon a R. Harris o Bwllheli yn cynnyg pregethu yn y ddinas heb nemor lwyddiant. Fe lwyddodd y Dr. Lewis, y pryd hwnnw yng Nghaernarvon, i fesur, a chafodd gan wr ieuanc o Eifionnydd ymsefydlu yma oddeutu 1788, ac ordeiniwyd ef yng Nghaegwigyn tua diwedd 1789. Fe gychwynnodd bregethu yn y ddinas mewn stafell unwaith a thrachefn, ond drwy ystryw offeiriaid fe'i lluddiwyd rhag parhau. Yn y man, pa wedd bynnag, fe gododd gapel bychan yn Nhyddyn yr ordor, rhyw filltir o'r dref. Yn ystod 1792-7 yr oedd yma tua 40 o aelodau a'r gwrandawyr yn lled. luosog. Fe ddaeth Daniel Evans o sir Benfro yma yn 1800, a llwyddodd ymhen ysbaid i godi capel yng nghanol y ddinas. Amseriad y weithred ydyw 1805. Yr oeddid eisoes wedi rhoi tir yn Lon y popty i'r Methodistiaid. Digiodd gwr a breswyliai yn ymyl am hynny; a rhoes yntau, yn ddial ar y llall, dir i'r Annibynwyr yn ymyl ei dŷ yntau. Fe darawodd rhagluniaeth