Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu pennau hwy yn erbyn ei gilydd er gwasanaethu amcan teyrnas nefoedd; ac yn y modd hwnnw y darfu i gynddaredd dyn foliannu Duw. (Hanes Eglwysi Annibynol III. 267-71).

Bu'r Dr. Arthur Jones (1776-1860) yma dros ystod 1810-5, a thrachefn dros ystod 1823-54). A chymeryd i'r cyfrif rym ei ddylanwad personol ef ynghyda meithter ei arosiad, tebyg mai efe a'r Deon Cotton a adawodd eu delw yn amlycaf ar y ddinas o fewn cyfnod yr hanes hwn. Yr oedd y Deon, fel y dywed Islwyn am y nos mewn cyferbyniad i'r dydd, yn rhywfaint ysgafnach, ysprydolach pryd, a'r Dr. Arthur Jones yntau, fel goleu'r dydd, yn dangos gweithgarwch mwy egniol a mwy amrywiol. Yr oedd Robert Roberts Clynnog wedi dodi ei law ar ben Arthur yn llanc, gan broffwydo y deuai'n bregethwr. Fe ymagorodd yntau'n deilwng o'r arddodiad llaw hwnnw. Fe ddaeth yn bregethwr poblogaidd, difyrrus ac argyhoeddiadol. Fe'i cyfrifid yn wr hardd: yr oedd yn lled dal, syth, o wneuthuriad cadarn, llathraidd, ac â phrydwedd amlwg, awdurdodol. Yr oedd ganddo lais eglur, soniarus. E fyddai ei ddisgrifiadau yn cyffroi pob teimlad, gan beri wylo a chwerthin bob yn ail. Edrydd Ap Fychan sylw o'i eiddo: "Naw ceiniog oedd gan Saul a'i gyfaill yn anrheg pan aethant at Samuel; ond fe gafodd Saul gorniad o olew ar ei ben cyn ymadael, a choron Israel. Dyna beth sydd i'w gael am bedair a dimai." Yn y modd yma y dodai fath ei feddwl ei hun yn annileadwy ar gof ei wrandawyr. Y cyfryw ydoedd awch ei arabedd fel y parai i'w wrandawyr weithiau ymdorri gyda'i gilydd mewn chwerthin uchel. Ond gallai ymatal ar y cynhyrfiad cyntaf, a thaflu i wydd y cynhulliad sylw a'u difrifolai ar ganol chwerthin, neu a gynhyrchai weithiau gawod o ddagrau. Yn ei gynulleidfa ei hun nid ymollyngai yn gymaint i'r digrifol; ond ymroai yn hytrach i eglurhau'r gair drwy bregethu. Fe berthynai i ddosbarth o ddarllenyddion cyhoeddus ar yr ysgrythur ag yr oedd Griffith Solomon, Evan Evans o Goleg y Darllenydd a Chaledfryn yn eu plith, y rhoid sylw neilltuol i'w darllen. Darllenyddion y pwyslais amlwg oeddynt, a chyfrifid hwy gan y cyffredin fel yn rhagori ar bawb eraill. Fe ymestynnai pobl i wrando ar y Dr. Aruthur Jones yn darllen, gan ddyheu am i'r wers barhau heb bendraw iddi. Yr oedd iddo gryn ddylanwad ar feddwl gwerin gwlad. Mewn seiat derfysglyd y digwyddai fod ynddi yn rhyw fan, fe lefarodd un o'r rhai blaenaf yn y