Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar brydiau yn or-flodeuog; ac oddiwrth ddisgrifiadau ohono fod ei arddull mewn traddodiad yn or-gelfyddydol. Fe ddengys pregeth iddo a gyfieithwyd i'r Pulpit Eloquence of the Nineteenth Century ei fod yn esboniwr gofalus ar ystyr y testun, a bod gwedd lafurfawr i'w ymdrin â'i bwnc. Yn ol Wheldon yr Wyddgrug, Henry Rees a gyfrifid ganddo fel yr esboniwr goreu ar ystyr y Beibl a glywodd efe. (Edrycher yr Arweiniol i eglwysi Caernarvon.)

Bu Rowland Hughes (1811-61) yn y ddinas ac yng Nghaernarvon. Fe arferir enwi Thomas Aubrey ac yntau ynghyda John Evans fel tri chedyrn y pulpud Wesleyaidd yng Nghymru. Ei enw ef, bellach, yw'r lleiaf amlwg o'r tri. Pan ofynnwyd iddo am hynny, fe nodai Evan Roberts Engedi y gallu i draethu yn gryf fel prif briodoledd Rowland Hughes. Mae Cynfaen yn rhyw fan neu'i gilydd yn hytrach yn ei gyferbynnu â John Jones Talsarn, gan briodoli urddas iddo. E fyddai Hugh Hughes, yr efengylydd Wesleyaidd, yn ei ddarlith ar John Elias, yn son am effeithiau goruwchnaturiol gweinidogaeth Rowland Hughes."

Brodor o Landwrog oedd Vulcan (1825-89), a adnabyddir oreu ymhlith y Methodistiaid fel awdwr Adolygiad ar Athrawiaeth yr Iawn Lewis Edwards. Synnwyr cryf ymarferol oedd nod angen Vulcan fel pregethwr a bardd a diwinydd dadleuol. Bu Richard Bonner (1787-1867) ym Mangor ac yn Nghaer- Fe arferai ddweyd ddarfod ei eni mewn sach a'i fagu mewn sgubor, ar y sail mai Tyddyn y sach oedd y naill a Sgubor y llall o gyfaneddleoedd y teulu. Fe roddai bwys ar fod grefi cystal a chig mewn pregeth. Yr oedd meddwl yn arabedd Bonner, a chofir ei ddywediadau ffraeth o hyd. (Ed- rycher yr Arweiniol i eglwysi Caernarvon.)

Bu William Davies (1820-75) yn traddodi darlith yn Bethesda yn 1857 ar Olyniaeth Apostolaidd, yn wyneb haeriadau uchel-eglwysig y Deon Lewis. Parhaodd y ddadl yn yr Herald Cymraeg am rai wythnosau. Daeth William Davies i Fangor yn 1856. O 1857 hyd derfyn oes, a'i breswyl yn y ddinas, bu'n golygu cyhoeddiadau enwadol. Yr oedd yn bregethwr swynol a grymus.

Yr oedd Samuel Davies (1818-91) yn meddu ar bersonoliaeth hardd ac urddasol. Yr ydoedd, hefyd, fel pregethwr yn meddu ar ddawn ac ireidd-dra, cystal a bod deunydd da yn y