Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregeth. Fe wasanaethodd y swydd o olygydd i'r Eurgrawn, gan ymsefydlu yn y ddinas am bedair blynedd.

Yr oedd John Evans Eglwysbach (1840-97) yn y ddinas ym mlynyddoedd diwedd oes braidd. Fel llefarwr cyhoeddus fe'i teimlid, o ran y cyfuniad o ddoniau a diwylliant, yn wr amrywochrog. Heb fod yn dal, yr oedd yn ddyn cydnerth. Yr oedd ei wyneb yn fawr i'w gorff, ac yn ei ddangos yn wr a deimlai mai ar y blaen yr oedd ei le. Meddai ar brydwedd amlwg, lluniaidd, go led hardd, a gwefusau wedi eu naddu â gwedduster manwl, troellog. A chyffelyb i'w brydwedd oedd ei aceniad: yr ydoedd hwnnw yn groew, hysain, ac yn arddangos pendantrwydd llym. Fe lareiddid y llymder gan y sirioldeb a dywynnai yn ei wynepryd. Aceniad awyr agored oedd yr aceniad, yn gyrru'r llais eglur, soniarus i'r pellteroedd. Yn ei gyfnod canol, yn wahanol i'w gyfnod blaenaf, debygir, ac yn fwy amlwg nag yn ei gyfnod olaf, fe daflai ei eiriau allan oddiar y wefus, megis pe yno y cychwynnent ar eu taith, ac yr ydoedd eu sain nid yn anghyffelyb i gleciadau pelennau ifori yn taro yn erbyn ei gilydd ar y bwrdd llyfndeg. Fel y parhae y geiriau i ddylifo, nid oeddid heb awgrym am ddawns a seiniau clychau arian. Traddodi yn ddynwaredol: nid awgrymu'r peth i'r meddwl fel Edward Matthews fynychaf, ond tynnu ei lun llawn o flaen llygaid y corff fel Owen Thomas. Ei fryd oedd yr angerddol. Fe agorai ei bwnc yn llawn, yn ddeheuig, megis yn yr esboniad helaethlawn ar y tair dameg, ar ol cymeryd y Mab Afradlon fel pwnc. Elai ymlaen o eglurder i nerth, ac o nerth i nerth; ac wedi cyfleu'r pwnc yn deg o flaen y meddwl ei gyfeirio at y gydwybod. Fe'i ceid weithiau yn angerddol, weithiau yn arabeddus, yn yr un bregeth; ond angerdd ydoedd ei fryd, nid arabedd. Enghraifft o'r arabedd ydoedd y darn arian wrth ysgubo am dano yn "tincian yn y gwter." Fe gyfunai ymresymiad â disgrifiad, a chyffyrddiadau rheithegol â darfelydd. Y traddodiad a barai i'r teithi hyn dywynnu yn y bregeth. Heb y traddodiad mae'r goleu yn llwydo braidd. Pan na chwythai'r awel fe deimlid weithiau anystwythter pendantrwydd dull, fwy neu lai. Ar dro, a'r awel yn chwythu, e fyddai'r grym y fath ag i lanw pob teimlad. Yn ei flynyddoedd olaf, dan ddylanwad ei ail wraig, ac oedd ei hunan yn efengylydd, fe newidiodd ei ddull gryn lawer, yn ol fel y dywedid. Yna fe ddechreuodd efengylu yn syml. E fu'n cynnal cyfar-