fodydd yn y ddinas a'r amgylchoedd i'r amcan o ennill dynion i broffes o'r Efengyl, a bu llwyddiant ar ei ymdrechion. Yn ei waith yn ymfoddloni i'r cyfnewidiad hwnnw yn ei ddull fe ddeuai i'r golwg ynddo elfen o fawredd moesol.
Fe gychwynnodd Bedyddwyr Bangor mewn dadl. Y Dr. Arthur Jones oedd wedi derbyn Margaret Carnes yn aelod o'r eglwys ar ei gyfrifoldeb ei hun. Methu gan William Griffith Roberts ddioddef hynny; ac oherwydd ei wrthwynebiad fe'i diaelodwyd ef: Yr oedd saith eraill yn ei gefnogi, a pheidiodd y cwbl â chymundeb yr eglwys er parhau yn wrandawyr. Wrth fedyddio plentyn rhoes David Davies Abertawe anerchiad yn erbyn trochiad. Wele wythnyn y gynnen yn dechre ymholi a oedd y peth hwn felly? A dyma William Jones Nefyn, gweinidog ymhlith y Bedyddwyr a saer coed, yn dod yma i breswylio yn 1810.
Fe bregethai William Jones mewn tai annedd, a'r wythnyn yn nesu ato. Yntau'n rhoi goleu iddynt ar bwnc bedydd; hwythau yn derbyn ei athrawiaeth. Yn y man, sef yn 1812, fe'u bedyddiwyd hwy i gyd yn y dull uniongred. Prynnu darn tir yn 1813 yn Stryd y ffynnon i adeiladu'r capel, ac adeiladu yn y man. Yr oedd gan John Ambrose, y, gwr a ddaliai'r Penrhyn Arms, sêt ynghongl y capel. Y John Ambrose hwn oedd tad y Parch. William Ambrose. (Y Tabernacl, t. 59).
Bu Thomas Rhys Davies yn llafurio yn Nyffryn Conwy yn ystod 1812-18, sef hyd ei ymadawiad at y Wesleyaid. Un aelod oedd yn yr eglwys yn y Roe pan aeth efe yno, sef Sian Pitar. Pregethwr Sian, Pitar y gelwid yntau ar y cychwyn, am mai yn ei thy hi yr arferai pregethwyr aros, fel yr oedd y traddodiad yn yr ardal ddeugain mlynedd yn ol o leiaf. Yr oedd ei faes llafur yn sir Ddinbych yn bennaf ar gwrr Arfon. Fe ddychwelodd at y Bedyddwyr yn 1826, ac ymsefydlodd yn ei hen ardal yn Glanwydden, sef ei dŷ annedd, ar ochr Arfon i'r terfyn, a hynny bellach heb gyfrifoldeb bugeiliol. Yma yr arosodd hyd ddiwedd oes yn 1859. Efe oedd y pregethwr mwyaf poblogaidd, yn nesaf at Christmas Evans, a fu gan y Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru. Lefeiniodd ei genhedlaeth yn yr ardaloedd hyn â'i feddyliau. Yr ydoedd yn wr tal, dair neu bedair modfedd dros chwe troedfedd, ac yn gryf er nad yn llydan o gorff, ac yn feinach gyfatebol tuag i lawr na thuag i