Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymlaen o adran i adran yn esmwyth ddiorchest. Er ymdroelli mewn ymadroddion cryno, a oedd fel corbyllau yma ac acw ar y wyneb, fe symudai ef ymlaen yr un pryd fel llestr swyn ar for swyn. Fe gyffroai chwerthin bob yn ail â dagrau. Fe darawai dant yn sydyn a dyna chwarddiad, a thant yn sydyn a dyna ddeigryn. A dyna'r bregeth drosodd heb fod neb yn disgwyl, a'r gynulleidfa yn ymddadebru yn siomedig; ond dygid ymaith yn y cof ddywediadau ffraethlym, bratheiriog, goleulawn, argyhoeddiadol. "Yr hwn nad oedd deilwng i bawb i'w ddatod carrai esgidiau'r Iesu oedd y cymhwysaf fedyddio." "Daeth Moses ac Elias i lawr o'r nef i arddel yr Iesu pan oedd yr Iddewon yn ei wrthod." "Nid oedd ar y ddaear ar y cyntaf rigolau parod i'r afonydd redeg; felly hefyd afon bywyd." "Pan oedd Moses yn fychan fe geisiodd Pharo ei foddi ar ei enedigaeth; ond wedi iddo fynd yn fawr, fe dalodd i'r Pharo yn ei goin ei hun." "Llun cerubiaid oedd ar y drugareddfa: mor agos y gellir dod at Dduw heb ei adnabod!" [sef am na wybu'r cerub am drugaredd]. "Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl. Newydd drwg i ddod o bulpud pres." "Mae i amser ddwy fynedfa: un i mewn ac un allan; nid oes i dragwyddoldeb ond un." "Ceisio lloches yng nghysgod y mynyddoedd yn nydd y farn, a nhwythau'r mynyddoedd heb loches eu hunain!" "Ac yn uffern efe a gododd ei olwg:-mae aml un o barlwr y byd yn codi ei olwg yng nghegin y cythraul." Oni allesid dywedyd am Thomas Rhys Davies yr hyn a ddywedasid am Thomas Coryat gan ei gyfaill Richard Hughes y bardd, gan ei gymharu â'r sawl a gafodd amgen manteision nag ef i weled yr holl fyd yn ei hyd a'i led, sef môr-arlwyddi a'r cyffelyb?

Dyscaist fwy mewn dwy eskid,
Yr hên gorph, na rhain i gid.

E fu Brutus yn cadw ysgol am rai misoedd yn yr Aber, cyn myned ohono i Leyn, debygir. Ni wyr Hanes yr Eglwysi Annibynol ddim am ei drigias yn y Bontnewydd ger Caernarvon ar ol dychwelyd ohono o Leyn, er y sonia Kilsby am hynny yn y Traethodydd (1867—, t. 222). A ydyw yn peidio â bod y Bontnewydd arall nes i gartref Thomas Rhys Davies, lle gallasai Brutus fod wedi clywed yr ystraeon hynny am wendidau Thomas Rhys Davies, a droes efe wedi hynny yn ddeunydd