Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi dianc rhag y demon, wele'r olygfa yn y man yn ymsionci; ac ar y drofa rasol a wyneba'r Felinheli mae yn ymagor ac yn ymestyn mewn hyfrydwch. Yn y fan lle gwelir y cei llechi yr oedd gynt y felin heli, a falai ar encil y llanw. Eithr fe gyfyd y ddynoliaeth yn y fangre hon yn y man amgen melin na honno, pa un bynnag ai'r Felin Heli fydd yr enw arni ai peidio. Wedi'r Atgyfodiad Cyntaf, yn y corff ysbrydol, e fydd. y greadigaeth allanol ei hun yn gyfrwng mewn cynhyrchu bara i'r ysbryd ei hun. Fe haerai William Blake am dano'i hun fod ef eisoes yn y cyflwr hwnnw, ac nad oedd efe'n canfod mo'r greadigaeth allanol, fel y dywedai ef. "Pa beth, fe ofynnir, pan gyfyd yr haul, oni weli lun crwn o dân rywbeth yn gyffelyb i gini? O, na, na! Mi welaf lu nefol aneirif yn llefain, Sanct, Sanct, Sanct, yw'r Arglwydd Dduw Hollalluog!"

Mae masnach y byd wedi torri ar yr arddunedd a'r unigedd mewn mannau. Erbyn i'r Dr. Samuel Johnson ddod heibio'r Penmaenmawr yn ei gerbyd yngoleu dydd yn 1774 fe gafodd yno ffordd newydd ei gwneuthur [sef ffordd dyrpeg 1772], hawdd ei theithio a diogel. Yr ydoedd wedi ei thorri yn llyfn. a'i hamgau cydrhwng muriau cyfochrog; yr un allanol yn diogelu'r teithiwr rhag y dibyn erch [y mur allanol mewn mannau yn 140 troedfedd o uchter]. . . . a'r un mewnol yn cadw'r llwybr rhag y cerrig rhyddion a fuasai'r lethr serth yn eu tywallt i lawr. . . . Yr oedd yr hen ffordd yn uwch wedyn, a rhaid ydyw y cyffroai arswyd. . . .[Mae nodiad gan Syr Henry yn dweyd y dengys map 1777 ffordd drwy Fwlch Sychnant, drwy Dwygyfylchi, tucefn i bentre Penmaenmawr a thros y mynydd, a thucefn i'r Gorddinog i'r Aber ac yna i Fangor. Dengys ffordd Caernarvon i fyny Lonpopty, drwy Langedol (Pentir) a hyd ffordd Bethel i Gaernarvon.] Erbyn yr hwyr yr ydoedd yn lloergan leuad; a chan fod pob meddwl am berygl bellach drosodd yr oedd gweddill ein taith yn hyfryd odiaeth. Ar awr hwyrol ni gyrhaeddasom Fangor [sef 12 milltir o Ddwygyfylchi ag sydd ychydig i'r gogledd i Benmaenmawr], lle cawsom lety gwael, a pheth trafferth i gael derbyniad. Yr oeddwn i'n gorffwys mewn stafell ag yr oedd dau ddyn yn y gwely arall." (A Journey into North Wales, t. 96). Aml deithydd heblaw'r hen ddoethor pruddglwyfus a arswydodd ar