Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn pellter mawr oddiwrth eu heglwysi priodol eu hunain. Mae Capel Curig yng nghantref Llechwedd Uchaf.

Fe draetha Pennant ei lên i'r perwyl yma dros saith ugain mlynedd yn ol: "Rhydd eglwys fechan Capel Curig ac ychydig dai gwasgaredig ryw fymryn o fywyd i'r ardal anial yma. Dyma'r Wyddfa a'i holl feibion, Crib Coch, Crib y Distill, Lliwedd yr Aran, ac aml un arall, yn ymagor yn y golwg, gan wneud hon y fynedfa geinaf o lawer i'n Halpau clodforus. Terfynau'r dyffryn hwn, ar un ystlys, ydyw gwaelod y Foel Siabod gam, a'r Gludair Bach ar yr ystlys arall, ac amryw fryniau eraill o lai bri . . . . . Ynghanol nant ymhell islaw [o'r Glyder fach] fe ymgyfyd y Trifaen hynod, yn ymlunio i ffurf pyramid ar yr ochr yma, yn noethlwm ac ysgythrog. . . . . Aethum dros wastadedd y Waun Oer, hanner milltir o led. Oddiwrth ei ymyl mewn ceunant enbyd mi welais Lyn y Bwch Llwyd, ac yngwaelod y nant, wrth droed y Trifaen, Lyn Ogwen. Mae'r ffordd oddiyno i Nant Ffrancon yn dwyn yr enw Benglog, y llwybr march mwyaf erchyll yng Nghymru, wedi ei dorri'n risiau am gryn bellter yn y dull garwaf. Ar un ystlys mewn ceuedd dwfn dan greigiau cwympiedig yr oedd unwaith ymguddle Rhys Goch Eryri, bardd mynydd. Dylifa dyfroedd pum llyn i lawr clogwyn canol y Benglog, ac ymunant yng nghefn llif yr Ogwen. . . . . . Mi welais fugeiliaid yn llamu o bigyn i bigyn ar y clogwyn uchel, fel yr ymddangosent i mi o'r gwaelodion fel bodau ar ryw fath arall yn gonofio yn yr awyr.

"Mae'r Trifaen o'r gwaelod yma yn edrych yn debyg i wyneb dyn yn gogwyddo'n ol. Gwelir yn eithaf amlwg y talcen, y trwyn, y gwefusau a'r én, a gallech chwanegu'r farf heb dynnu rhyw lawer ar y dychymyg, sef barf hen dderwydd. "Chwedl y bugeiliaid am Gwm Idwal ydyw ei fod yn dram- wyfa demoniaid, ac na faidd dim aderyn ehedeg dros ei ddyfroedd melltigaid, marwol fel eiddo Afernws. Yn ymyl y lle yma y mae chwarel enwog am hônau rhagorol.

"O Gwm Idwal yn ol i'r uchelterau a adewais eir dan y dibyn enbyd acw, sef Castell y Geifr. . . . . . Sylwch ar y dde ar y graig agennol acw a elwir Twll Du a Chegin y Cythraul. Bwlch erchyll ydyw ynghanol clogwyn mawr du, yn ymestyn o ran yr hyd oddeutu 150 o latheni, o ran dyfnder oddeutu cant,