Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra nad ydyw ond chwech o ran lled; yn syth agored i wyneb y mynydd. . . . . . Nid llai'r dychryndod wrth edrych i lawr yr agen arswydus yn sŵn dyfroedd Llyn y Cwn yn rhuthro ar hyd y gwaelod.

"Cyrraedd y Glyder Fawr a myned heibio ymyl y Clogwyn Du, dibyn mor ddychrynllyd a'r un yn Eryri, a gróg dros echrys ddyfroedd Llyn Idwal. Mae'r olygfa o'r mynydd hwn yn ardderchog. Gwelir yr Wyddfa i fantais, nant ddofn Llanberis a'r llynoedd, Nant Ffrancon, ac amrywiol olygfeydd hynod eraill. . . . . Mae'r elfennau wedi brwydro yn erbyn y mynydd hwn: gwlawogydd wedi ei olchi, y mellt wedi ei rwygo, y ddaear ei hun wedi ei adael, a'r gwyntoedd wedi ei wneud yn gyson wrthrych eu ffyrnigrwydd. Cartrefle'r stormydd ebe'r bugeiliaid a'u henw arno, Carnedd y Gwynt. Y Waun Oer a gysyllta'r Glyder Fawr wrth y Glyder Fach. Mae gan y teithydd gan hynny ddewis o lwybrau i'r mynyddoedd rhyfeddol hyn."

Eto Pennant ar dro arall: "O'r Penrhyn mi a ymwelais âg eglwys Llandegai oddeutu milltir oddiwrth y tŷ. Mae ar safle wêch ar boncan ddyrchafedig uwchlaw'r Ogwen, a cheir oddiyma olygfa glws. Adeilad bychan nêt ar lun croes, a thwr yn y canol a gynhelir gan bedwar bwa. . . . Mae cofadail furol uwchben bedd yr Archesgob John Williams, a'i lun yntau yn ei wisg esgobol yn penlinio wrth yr allor. Ganwyd ef yng Nghonwy.

"O Landegai mi ddisgynnais a chroesais y bontbren dros redlif ffyrnig yr Ogwen, a ymdywallt i'r môr ychydig yn is i lawr yn Aber-Ogwen. Yna esgyn Carnedd Llywelyn. Yr olygfa yn syfrdanol fawreddus. Yn rhyw bellter mae'r Wyddfa a'i halpau cymdogol, y ddwy Glyder, Trifaen a Charnedd y Filiast. . . . . Terfynnir Nant y Ffrancon gan y creigiau hyn ac eraill..... Mae Llyn Llyffaint yn y golwg, a hynodir gan chwedl wirionllyd. Oddeutu 1542, ebe'r Dr. Powel, cerddodd o waelod y llyn ryw noswaith ddwy garreg anferth, un ohonynt yn gyfryw nad allasai mil gwêdd ychen mo'i syflyd, i fyny rhiw yng ngwaelod Carnedd Llywelyn, pellter ergyd bwa saeth o leiaf, ac o'r fan yma nid ysgogasant hyd heddyw. Ameu gan Harri'r Wythfed y chwedl hon a danfonodd wr ar ymchwil yma, a chafodd gyflawn foddlonrwydd o wiredd y peth drwy enau ei gennad.