Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan bob i gnicht o graig anferth, Trifaen ar y dde a'r Braich Du ar y chwith. Mae'r rhai'n ynghyda'r Glyder Fach a'r Glyder Fawr yn cau ar y nant yn y pellter.

"Ymhen y nant ymdry'r ffordd i fyny craig serth, cydrhwng y Trifaen a'r Braich Du, a elwir y Benglog. O'r gwaelod, oddeutu hanner milltir o bellter ar y chwith gwelir tri phistyll yr Ogwen, a elwir Rhaiadr Benglog. . . . . Yn y pistyll isaf rhuai'r ffrwd â mawr ffyrnigrwydd mewn un len o ewyn hyd graig serth ddidoriad. Lluniai'r haul fwa clws lliwiedig yn y trochion. . . . . Yn yr ail bistyll ymdeifl yr afon yn ffrwd wêch drwy hafn cydrhwng dwy graig serth a gyfyd bob un ohonynt amryw latheni oddiarnodd. Llanwai'r Trifaen anferth yr adwy lydan ymlaen o'r fan lle safwn, gan beri effaith o bellter ysgrythrog a mawreddus, a fwyheid gan y tês ysblennydd tywyll a gyfodai oddiwrth ddirfawr wres y diwrnod a'r cymylau yn casglu o amgylch. Mi allaswn ffansio'r crugiau o greigiau duon, amgylchynedig âg ewyn, wrth ymyl pen y pistyll, fel yn llifo gyda'r genllif ac yn rhuthro dros y dibyn. Ni chefais mo'r trydydd pistyll yn agos gyfartal i'r un o'r ddau eraill, ond, er hynny, yn llawn mawrhydi. . . . Wrth groesi pen uchaf y nant ymagorai o'm blaen olygfa brydferth odiaeth, a'r mynyddoedd ar bob ystlys i bellter mawr yn llaes ymestyn y naill tuhwnt i'r llall.

"Gelwir y Trifaen felly am yr ymddengys ar un ystlys fel petae tri phen iddo. Ar ei bigyn uchaf mae dwy garreg a ymddengys wrth ymyl Llyn Ogwen yn union fel teithydd a'i dywysydd. . "Y flwyddyn ddiweddaf sicrhawyd act seneddol er gwneud ffordd o ymyl Llanrwst i Ysgraff Bangor, ac ar hyd hon yn awr y rhed y llythurglud o Lundain i Gaergybi. Hyd o fewn yr ychydig flynyddoedd diweddaf yma nid oedd y ffordd ar hyd y nentydd hyn namyn llwybr march, ac un o'r rhai gwaethaf ar hynny..... Gwnaethpwyd y ffordd o Ysgraff Bangor i Gapel Curig ychydig flynyddoedd yn ol ar draul yr Arlwydd Penrhyn, ac achubwyd 10 milltir ynddi allan o 38 cydrhwng Capel Foelas ac Ysgraff Bangor, cystal ag osgoi llethrau'r Penmaenmawr a'r Sychnant. . . . . [Y prif gymhellydd a chefnogydd oedd yr Arlwydd, mae'n ddiau. Gwellhawyd y ffordd droion wedi hynny ar y draul gyffredin ynghyda chymorth y llywodraeth.]