Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yn y corsydd wrth Lyn y Cŵn gwelsom rai'n cloddio mawn. Cludir ef gan feirch at ymyl y ddisgynfa gyntaf, pan lwythir ef ar geir llusg, a hwylir gan bob i yrrwr. Er yn gryn lwythog fe'i hwylir yn eithaf esmwyth gan y cynefin. Fe'i gwelir hyd yn oed yn rhedeg à hwy i lawr ochrau lleiaf serth y mynydd; ond pan ddeuant at ddisgynfa fwy serth na'i gilydd, nhwy wnant droadau disymwth o'r naill ochr i'r llall yr holl ffordd i'r gwaelod. Mae'r cynllun hwn yn atalfa effeithiol ar gyflymdra'r car llusg.

"Terfynir dyffryn y Capel Curig gan yr Wyddfa a'i fynyddoedd cymdogol, a cheir yma rai o olygfeydd gwychaf y wlad i gyd. Yma'r bryniau a'r dolydd, y coedir a'r gwastad; acw'r ddaear a'r dŵr mewn gornest eilchwyl; nid mewn tryblith-lun, wedi eu malurio a'u cleisio, ond, fel y bydysawd ei hun, yng nghynghanedd ei ddyrysni. Ceir yma'r cyfuniad hwnnw o goed a dwfr a chwanega gymaint at yr effaith yn y llun tegeiddwych."

Tua chanol y ganrif o'r blaen yr oedd Roscoe ar ei ymweliad. Erbyn ei amser ef, ac ymhell cyn hynny yr oedd Betws y Coed wedi ymagor yn flodeuyn o ryfeddod yn nirnadaeth dynion. Ni ddarfu i Bennant na Warner (A Walk through Wales, 1798), er ymdroi yn y cyffiniau, feddwl dim am dano. "Arosasom ennyd ym Metws y Coed," ebe Bingley, "er gweled cofadail henafol yn yr eglwys er coffadwriaeth am Gruffydd ap Dafydd Goch," yna gair byrr am hwnnw, a ffwrdd a ni! Gallesid meddwl oddiwrth ei farddoniaeth ddyfynedig a gymhwysid ganddo at Gapel Curig, a'i fryniau a'i ddolydd a'i goetir a'i ddwr, a'r cwbl yn gyd-weuedig yn nyrysni cynghanedd, y gogleisid ciliau calon Bingley ym Metws y Coed. I'r gwrthwyneb wele ef yn myned heibio â'i lygad ynghau, a'i enau, ond am yr hen Ruffydd ap Dafydd Goch. Fel hyn y gwelir: ymgudd ysbryd y peth byw ynghanol yr olwynion hyd addfedrwydd ei dymor, ac yna yng nghyflawnder amser fe ymdyrr y weledigaeth ar grebwyll syfrdan dyn. Ond rhaid crynhoi sylwadau Roscoe: "Gwedi ei chyfleu yn union yn hafn y creigiau crôg, a'r awron mewn ymchwydd aflonydd dan wyntoedd tymhestlog tymor hydref, a chwibianent drwy'r ceunentydd mynyddig, yr oedd i agwedd Llyn Ogwen, ynghyda rheieidr ysgubol y Benglog, ryw effaith wyllt a phruddaidd i'r meddwl. Yr oedd yma'r rhamantedd dychrynadwy a'r na fuasai, yn ei fan llymaf,