Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1847 y dewiswyd Ellis Jones Glanrafon a John Williams Ty'nyrhosgadfan yn flaenoriaid.

Dyma'r taliadau am Ionawr 1847: Traul y tŷ, 11s.; casgl misol, 1s.; talwyd i Hugh Jones am lo, 13s.; Morris Roberts, 4s. ; Cadwaladr Owen, 2s.; John Owen, 4s.; Moses Jones (heb ddim. gyferbyn-heb ddod i'w gyhoeddiad mae'n debyg). Cyfanswm, £1 15s. Derbyniadau, £2 0s. 8c. Rhodd at Gyfarfod Misol Hydref, 5s.

Adgyweiriwyd y capel yn 1848. Yn ei ffurf wreiddiol, ebe Mr. John Williams, nid oedd nenfwd ynddo. Dodwyd nenfwd i mewn yn ddiweddarach. Dodwyd awrlais, hefyd, ar y pared. Dywed yr un awdurdod am yr awrlais hwnnw, nad oedd modd ei gael i gadw'r amser, er ei ddanfon i Humphrey Williams o'r Waenfawr i'r perwyl hwnnw. Dodwyd rhai pwysau yn ychwaneg of haiarn yn ei rombil yn ofer ac am ddim. Eithaf tebyg fod y fath beth a chythraul yr awrleisiau yn bod, er na soniodd Williams o'r Wern ddim am dano.

Yr oedd ysgol ddyddiol wedi bod yn cael ei chynnal yn llofft y tŷ capel gan Ellis Thomas. Mae Mr. Williams yn tybio ddarfod iddo glywed fod Ellis Thomas yn derbyn rhyw gymaint o drysorfa'r capel, yn ychwanegol at arian y plant. Gwr diniwed. Difyrrwch gan y plant fyddai ei ddwyn ef ar eu hysgwyddau yn ystod yr awr ginio o amgylch y capel dro ar ol tro. Ymadawodd ef oddeutu 1845-6. Elai rhai o'r plant yn ol hynny i ysgol eglwys y Bontnewydd, eraill i ysgol William Jones Felinforgan, ger Brynrodyn. Yn 1849 penderfynwyd mewn pwyllgor wedi ei ddewis gan y gynulleidfa gael ysgol fwy effeithiol na dim a welwyd o'r blaen. Trwy gyfryngiad John Phillips Bangor, fe ddaeth Benjamin Rogers yma fel ysgolfeistr o Abergele. Cynhaliwyd yr ysgol yn y capel. Yr oedd yn angenrheidiol wrth ddodrefn ysgol ar ei chyfer, a cheisiwyd hwy. Cynhaliwyd yr ysgol yn y dull hwn am tua phum mlynedd. Yn nechre 1855, adeiladwyd ysgoldy lle saif Bron einion yn awr, digon eang i gynnal gryn gant o blant. Ni chafwyd cynorthwy y llywodraeth, am nad oedd yr ysgol wedi ei hadeiladu yn unol â chynlluniau yr awdurdodau.

Dyddiau Griffith Prichard a nesasent i farw. Tuedd go gref at y dibris a'r cellweirus. Diarddelwyd o'r eglwys ar un amgylchiad. Bu'n aelod ffyddlon yn ol hynny hyd y diwedd yn 1849. Gwr o