Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lais ystwyth a soniarus, ac yn ddawnus ei ymadrodd, ac yn gallu deffro awch disgwylgar yn y gwrandawyr yn ei dymor cyntaf.

Symudodd Robert Owen i Lanrhuddlad Môn oddeutu 1850, wedi bod yma ers 1839. Ar Galanmai 1849 y symudodd efe ei drigias o Is-Horeb i Fryn Horeb, ebe John Williams. Yn ystod yr 11 mlynedd, neu oddeutu hynny, y bu efe yma, yr oedd ei wasanaeth i'r achos o lawer o werth. Yr oedd gwasanaeth ei wraig, Jennet Owen, hefyd, yn werthfawr i'r lle. Bu yma gyfarfod gweddi ganol dydd ar un diwrnod o'r wythnos am rai blynyddoedd gan y merched, a Jennet Owen a arweiniai yn hynny. Gwnaeth Robert Owen waith neilltuol gyda'r plant yma. Elai gyda'r plant drwy hanesion hynotaf yr Hen Destament a'r Newydd yng nghorff y blynyddoedd yn ei ddull deheuig ei hun. Fe deimlai'r plant awydd aniwall am y cyfarfodydd. Ymhlith y tô o blant a godwyd ganddo yr oedd Griffith Davies, ar ol hynny y cyfrifydd o Lundain; John Thomas, a ddaeth yn flaenor yma; a neb amgen na Glasynys, fel yr adweinid ef wedi hynny; a William Williams Glyndyfrdwy. Ni pharhaodd i gynnal y cyfarfodydd hynny ond am rai blynyddoedd. Holai'r plant pan fyddai adref am y Sul. Elai i'r fath gyfeiriad a phum synwyr dyn, ac yn ei ddull ef o drin y pwnc arosai y wers yn anileadwy ar gof pawb o'r bron. Dywed Mr. Gwynedd Roberts fod y rhai ddysgwyd yn blant gan Robert Owen, a oedd yn aros yno yn ei amser ef, yn meddu ar gydnabyddiaeth eithriadol fanwl â hanesiaeth ysgrythyrol. Efe a wnaeth lawer dros ddirwest, gan gynnal cyfarfodydd dirwestol drwy'r ardaloedd cylchynol mor bell a Chlynnog. Elai a chôr ieuainc i'w ganlyn, a gwnelai i un neu gilydd ohonynt draddodi araeth. Perchid ef gan hen ac ieuanc yn y lle. (Cofiant Robert Owen, Apostol y Plant, gan Owen Hughes, 1898.)

Yn 1854 y gwnawd David Williams Tanrallt yn flaenor. Mawrth 29, 1855, bu farw John Williams Fach goch, yn 53 oed. Efe a William Williams oedd y rhai cyntaf a ddewiswyd yn flaenor- iaid gan yr eglwys ei hun. Yr oedd hynny, fel y bernir, yn 1835 neu gynt. Mab i William Edward Cae'mryson oedd ef. Ei dad yn un o sefydlwyr yr ysgol yma, a'i fam yn un o'r merched mwyaf rhinweddol a duwiol. Yr oedd eu plant, yn bump o feibion a dwy o ferched, yn golofnau yn yr eglwys, ac wedi hynny mewn mannau eraill. Y ferch Catherine ydoedd fam William Williams Glyndyfr-