Morgan Jones am William Jones, y gweinidog, yn holi profiad yr hen Walltgwyn yn y seiat. Dywedai wrth y gweinidog y byddai hi'n dywyll iawn arno weithiau, weithiau ychydig yn oleuach. "Pa fodd," gofynnai'r gweinidog, "y byddwchi yn teimlo pan fydd hi'n goleuo arnochi ?" "Yn llawn ffaeleddau," atebai yntau. Ac yna fe aeth ymlaen: "Roeddwn i'n sylwi pwy ddiwrnod yn y tŷ acw ar yr haul yn tywynnu drwy dwll y clo, ac yr oedd yno ryw rimin main o oleuni, welwchi, a hwnnw'n disgleirio yn anarferol iawn. Ond po fwyaf y disgleiriai'r goleuni, welwchi, llawnaf yn y byd y gwelwn i fod o o frychau. Ac fel yna yn union, welwchi, y byddai'n gweld fy hun." Fe ddywedir y meddai William Williams ar gryn wybodaeth am hanes foreuol eglwys Crist. Bu farw Ebrill 27, 1874.
Yn 1875 y dechreuodd Robert Williams bregethu.
Elinor Griffith ydoedd wraig yr hen flaenor Richard Griffith. Dynes dawel, feddylgar. Fel ei gwr, gwnaeth hithau fawr ymdrech i ddilyn y moddion. Clywid tinc nefol yn ei phrofiad. Adnod fawr ganddi yn ei chystudd olaf oedd honno, "Ac i chwithau y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddanghosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol." Bu hi farw Chwefror 14, 1876.
Mawrth 29, 1876, y bu farw Robert William Garreglwyd, wedi gwasanaethu fel blaenor ers 1850. Go fawr o gorff, braidd yn afrosgo ei gerddediad, go gartrefol ei ffordd, heb ddawn siarad, ac yn edrych i fyny i'r nenfwd pryd y byddai wrthi,—dyna ddisgrifiad Mr. Morgan Jones ohono. A dywed ef, hefyd, ddarfod i Robert William ddigio'n enbyd unwaith am beidio disgyblu chwaer a briododd o'r byd, yn ol goddefiad y Gymdeithasfa. Dyfynnai Gurnall yn ddedwydd weithiau. Nid yn ddarllennydd mawr ond ar y Beibl. Hallt wrth ddisgyblu: ni chredai mewn gadael i'r drwg groeni. Ceryddai yn bersonol weithiau. Cynghorai rai wedi tramgwyddo ar fod ohonynt fel y sach gwlan heb ddangos ol y gnoc. Caffai afael nodedig ar brydiau mewn gweddi gyhoeddus. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Claddwyd ef ym mynwent Taiduon, a rhoddwyd carreg ar ei fedd gan aelodau yr ysgol Sul.
Yr oedd nodwedd ymarferol ddymunol i grefydd Robert Griffith Brynperson, brawd Richard Griffith a thad y Parch. W. Lloyd