Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr un flwyddyn y daeth Thomas Williams Rhyd—ddu yma. Bu yma am rai blynyddoedd, a bu'n dra ffyddlon fel ymwelwr â'r cleifion, a bu ei wasanaeth yn werthfawr mewn cyfarfodydd eglwysig. Aeth oddiyma i'r Bwlan. Ar nos Iau, Mai 28, 1868, cyflwynwyd tysteb mewn cyfarfod cyhoeddus iddo. Codwyd teimlad ymhlaid hynny ar gyfrif ei ffyddlondeb ef yn ystod y flwyddyn cynt yn ymweled â chleifion y gymdogaeth, pryd yr oedd rhyw glefyd trwm wedi goddiwes lliaws mawr o deuluoedd. (Drysorfa, 1868, t. 260). Tebyg, hefyd, ei fod y pryd hwnnw ar ymadael i'r Bwlan. Yn 1870 ail—adeiladwyd y capel. Y ddyled yn 1869, £300; yn 1871, £880. Rhif yr eglwys yn 1869, 168; yn 1871, 184. Cynwysai y capel newydd 500 o eisteddleoedd; a gosodid yn 1871, 380. Pris eisteddle yn y capel newydd am y chwarter wedi codi dimai y pen ragor yn yr hen gapel, sef bellach 8g. y pen.

Y gwr a fu'n gyfrifol yn bennaf am sefydlu'r achos yma, ac a fu'n brif arweinydd iddo am flynyddoedd lawer, sef ydoedd hwnnw, William Owen, a fu farw Medi 27, 1870, yn 67 mlwydd oed, ac wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor er sefydliad eglwys Carmel yn 1826, ac yn Llanllyfni yn ystod 1837—45. Ar ei ddyfodiad i Benbrynmawr yn 1837, drwy briodas â Jane, merch Dafydd Jones Penbrynmawr, fe ddaeth i sefyllfa amaethwr cyfrifol. Bu'n warcheidwad tlodion dros y plwyf am flynyddoedd. Dywed y Parch. John Jones Brynrodyn, yn ei gofiant iddo yn y Drysorfa (1880, t. 193, 233), fod agwedd hynafol ar yr achos yn Llanllyfni ar ei fynediad ef yno, a'i fod yn peryglu myned i ddirywiad—y blaenoriaid wedi myned yn hen eu hunain, ac yn rhai nad oedd dim ond oedd hen yn foddhaol ganddynt. Am fod ysbryd diwygiwr ynddo ef, fe edrychid arno y pryd hwnnw gan rai fel dyn peryglus, gan ei fod am ymyrryd â'r hen ddull o gadw cyfrifon yr eglwys a'r cyffelyb. Pa ddelw bynnag, fe brofodd ei ymyriad yn llesol i'r achos. Digwyddodd i'w ran ef lafurio ym mhwys a gwres y dydd yn y tair eglwys y bu mewn cysylltiad â hwy; ac yr ydoedd yntau o ran adnoddau naturiol a grasol yn wr cymwys i'r alwad arno. Nid ychydig fu ei ymdrech, fe ymddengys, i sicrhau pregethu rheolaidd i Benygroes, oblegid anhueddrwydd yr eglwysi cylchynol i ganiatau oedfa yma. Rhaid cofio nad oedd y lleoedd hynny eu hunain yn cael dwy oedfa yn gyson ar y Sul fel yn awr. Ac wrth fod eglwys Penygroes y pryd hwnnw yn fechan a gwan, bu yn gyfyng ar William Owen o'r ddeutu am flynyddoedd o amser.