Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y goleu neu'r tywyll. Gwnaeth hynny am flynyddoedd heb ddamwain. . . . Gwedi dwyawr o lafurwaith caled. iawn ni gyrhaeddasom gopa'r Wyddfa. Yr oedd y goron o gymylau yno eto, ac amgeuid ni gan niwl oerllym. Mewn hin oerach nag eiddo cartre'r gogleddwynt ni arosasom ryw hanner awr, pan yr hwyliodd y niwlen ymaith, ac am ychydig funudau fe'n gadewid mewn syn—olwg ar eangder diderfyn, wedi ei amrywio â mynyddoedd a dolydd, dinasoedd, llynoedd a moroedd. Nid annhebyg yr olwg o Gader—Idris, ond fod bryniau Wicklow, sef clogwyni beiddgar gwrthwynebus yr Iwerddon, yn amlycach yma, ac Ynys Fanaw fechan a'i llun yn llawnach yn ein golygon. Eithr y niwlen yn y man a'n cofleidiodd drachefn yn ei mynwes oerllym. . . Yr oedd yr effaith yn fawreddus: Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd. Yn achlysurol rhyw wth neu'i gilydd o wynt a ruai yr awron o'n hamgylch, a sgubai ymaith y cwmwl pygddu a amgeuai rai llecynnau ar y mynydd, gan ddwyn i'r golwg yn union odditanom greigiau anferth, clogwyni serth a holltau dyfnion, a gynhyrchai deimladau o syndod ac ofnadwyaeth fel y cyfleai'r llygad ger gwydd y meddwl, wrth dreiddio ohono'r affwys echrys, ryw ddelwedd ddychrynedig o ddinistr anesgorol. Ni welsom y mynydd urddasol yn ei holl brydferthwch a'i holl arddunedd. . . . Aethom ymlaen at Gastell Dolbadarn a Llyn Llanberis. . . . Yr oedd y llafurwyr yn casglu ynghyd gynnyrch prin y gweirgloddiau geirwon. . . . Ein harweinydd fechan yma, heb na hosan nac esgid, yn ysgafn— droed fel cornchwiglen, a'n dygai dros gerrig a chorsydd am oddeutu dwy filltir, nes cael ohonom ein hunain yn ymyl y llyn. ./ . . Mae yn y gymdogaeth waith mŵn copr gwerthfawr a phedwar neu bum lefel iddo. Maer mwn yn dra gwerthfawr ond yn hytrach yn brin. . . . Mewn awr arall yr oeddem wrth yr afon Rhyddell, a lif o ben gogleddol y llyn â chwrs troellog i Gaernarvon. Ni aethom drosti ar bont gerrig arw'r olwg ac heb ei saernio yn gelfydd yn y byd, ond a'r dabled yma ar ei chanol, a ddengys y golygid hi'n bisin o gelfyddydwaith gorchestol gan y gwr athrylithgar a'i hadeiladodd Harry Parry, Inigo'r amser diweddar hwn, a adeiladodd y bont yma ym mlwyddyn ein Harglwydd 17—' [A beiddiodd rhyw wr direidus â chogio Harry Parry yn ei an-