Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wybodaeth o'r iaith Saesneg a oedd ar y dablen?] Fe dynnai'r dydd bellach at ei derfyn; a'r haul digwmwl, gan suddo'n araf i'r môr, a gynhyrchai olygfa gyfareddol, y fath nad yw natur yn ei harddangos ond mewn gwledydd lle'r argraffa hi ei nodweddion amlycaf. Yr oedd cwmwl cnuog godidog yn amgylchynnu'r mynyddoedd a adawsom o'r tu ol gan eu llennu hyd hanner eu huchder. Ar y cwmwl hwn y taflai pellen y dydd wrth ymsuddo'n araf ei llewyrch mwyaf goludog, gan oleuo'r fangre mewn modd nas gall pwyntil ddynwared neu bin sgrifennu ddisgrifio. Lliw'r niwlen bob munud a ymnewidiai: yr awron fe ymwisg yng nghnu'r asur; y funud nesaf fe dân-oleua yn gnu euraidd; yn union wedi hynny fe dry yn ddyfnach melynlliw. Fel y dynesai'r haul at y donn, fe newidiai'r arlliw yn olynol yn goch ddisglair ac yn borffor dwys; ac yn y man, fel y suddem o olwg y terfyngylch, aethai'n araf yn dywyll heb liw. Fe fwyheid yr effaith gan yr amrywiad yn llun y cwmwl. Am ysbaid fe ymgyfyngai i diriogaethau ucha'r mynyddoedd; yna, gan ymsuddo gryn lawer, fe amgylchynnai eu gwaelodion braidd; a thrachefn gan ymgodi ac ymgrynhoi fe grogai oddiar eu copaon fel coron gogoniant. Yr oedd yr arlun gwrthwyneb yr un mor ardderchog. Tyrau difrifddwys Castell Caernarvon, yn gyferbyniol a golwg wech y llongau a phalasdai'r gymdogaeth, a oedd ar y blaen; i'r aswy gwelid. llethrau tywyllion serth yr Eifl; tri mynydd o faintioli dirfawr ac uchter aruthr, erbyn hyn yn y gwŷll; ac yna, tuhwnt iddynt hwythau, yr eigion yn tywynnu à phelydrau machlud haul, ac wedi ei ledu cybelled ag y cyrhaeddai'n gwelediad. Tra ardderchog oedd gogoniant machlud haul: fel y dynesai at y tonnau daethai ei ddisgleirni yn fwy goddefol, a'i lun yn amlycach, fel llun pellen o dân aruthr ei maint. Wedi cyffwrdd yr eigion, fe edrychai fel yn gorffwys arno megis ar orseddfa am funudyn, ac yna fe ymgladdai o ran ei ddirfawr grynder ysblenydd yn y dyfroedd, gan ein hatgofio am y cyfarchiad prydferth hwnnw i'r haul gan dad barddoniaeth Gaeleg: 'A adewaist dy yrfa yn y nefoedd las, fab wallt-euraidd yr asur? Agorodd y gorllewin-barth ei byrth: dy orweddfan a'th wely sydd yno. Daw'r tonnau i edrych dy degwch. Nhwy godant eu pennau crŷn. Nhwy a'th welant yn hardd yn dy hûn; nhwy giliant ymaith gan ofn. Gorwedd yn dy ogof dywyll, O Haul! A boed dy ddychweliad atom mewn llawenydd.' Mewn ym-