Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deimlad â'r rhyfeddod a'r hyfrydwch a gyffrowyd ynom gan yr olygfa newydd a gogoneddus hon y cerddasom ymlaen yn araf mewn myfyr tawel tua thref Caernarvon, a gyrhaeddwyd. gennym erbyn naw ar y gloch, ac a orffwysasom yng ngwesty'r King's Head." (A Walk through Wales, Llythyr viii.).

Yr Wyddfa, ag y dywedir fod ei hanner yn y plwyf hwn, yw'r atyniad mawr i ddieithriaid. Llawer profiad dieithr yn ddiau a gafwyd yma. Yr ydoedd yn ddywediad gynt am bwy bynnag a gysgai ar ben yr Wyddfa y nofiai'r lluniau a'r del— weddau prydferthaf o'i flaen, ac y deffroai yn y meddiant of grebwyll barddonol. Fe amgaeir, fel crisial mewn craig, rhyw wirionedd nad cwbl anhawdd ei ddirnad yn yr hen ddywediad. Onid tebyg fod eisieu talfyrru'r pwy bynnag." Dyma George Borrow yma, gwr o haniad Cernywig ar ochr ei dad, a chydymdeimlad dwys rhyngddo a'r Cymry. Esgynnodd o ochr Llanberis. "Fe safai pigynnau a chopaon a moelydd anferth o'n deutu, mewn rhan mewn gogoneddus oleuni, mewn rhan mewn dwfn gysgodion. . . . Sonir am yr Wyddfa gan yr enwog Goronwy Owen yn ei Gywydd y Farn:

Ail i'r âr ael Eryri,
Cyfartal hoewal â hi.

Mae dau englyn cywrain yn y Gymraeg ar eira'r Wyddfa:

Oer yw'r eira ar Eryri

Dyma'r araeth a draethais ar gopa'r Wyddfa... Gwrandawai boneddwr o Gymro arnaf â chryn ddifyrrwch. Fe ddaeth ataf ag ysgydwad llaw, ac ebe fe,—' Wyt ti Lydaueg?' 'Nid wyf Lydaueg.' ebe fi. . . .Hyd yma George Borrow. Ond fe ddichon na fu profiad hynotach ar ben yr Wyddfa nag eiddo Evan Roberts, pan y clywai lef allan o'r awyr uwch ei ben yn rhoi mynegiad i'r deisyfiad,—Deled dy deyrnas. Wedi dod o'r diwygiwr i lawr o'r mynydd, mi sgrifennodd y geiriau yma:

Y mae y mynyddoedd yn uchel, ond y mae fy ngobaith yn uwch;
Y mae y mynyddoedd yn gedyrn, ond y mae fy ffydd yn gadarnach;
Diflanna y mynyddoedd; ond Duw ni ddiflanna byth.