Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwilio llawer ar yr Ysgrythyrau. Yn chwanegol, gellir sylwi nad anhawdd fuasai penderfynu wrth ei osgo a'i lafar y perthynai iddo nid ychydig o'r gallu i lywodraethu. Naturiol, hefyd, i'r sawl oedd hysbys o'r ddau fuasai ei ddodi ef a'i dad yn gyfochrol â'i gilydd. Yr un peth y rhagorai'r mab yn amlwg ynddo ydoedd effaith diwylliant a choethter. Fe ganfyddid yr argraff o hynny yn y wynepryd, yn nhôn y llais, yn null yr ymdrin â phwnc, athrawiaethol neu ymarferol. O ran cynneddf natur, fe ddichon nad oedd gwahaniaeth neilltuol. Tebyg oedd y ddau o ran awdurdod dull, ond bod yr awdurdod wedi ei larieiddio yn fwy yn y mab; a thebyg o ran ffrydlif dawn, a'r gallu i ymhelaethu nes bod y maes yn ymagor gerbron yn ei hyd a'i led, a'r duedd i redeg ryw gymaint dros y cloddiau; y mab yn meddu ar ryw gyffyrddiad o arucheledd na chanfyddid mor amlwg yn y tad, a'r tad, debygir, yn meddu yn hytrach ar ffynnon ddyfnach o deimlad toddedig; y ddau yn ddi-dderbyn wyneb, yn ddihoced, yn meddu ar gyflawnder o gymhellion haelionus, yn ymroddedig i wasanaeth. Fe werthfawrogai John Wheldon, fel ei fab, y sylw cryno, cynhwysfawr, awgrymiadol, cystal a'r gymhariaeth flodeuog, hedegog, a berthynai yn fwy amlwg i'w dawn gynhwynol hwy eu hunain. Wrth adrodd ei brofiad yn y Cyfarfod Misol ar un tro, fe ddangosai'r tad ei werthfawrogiad o ymadrodd Richard Lumley am y credadyn addfed, sef ei fod yn cael ei "falu ym melin profedigaethau"; a sylweddolodd yntau, i fesur, a'i fab yn fwy, ystyr llym yr ymadrodd hwnnw.

Yn 1895 y Parch. J. O. Jones yn symud i eglwys Preswylfa. Yn 1897 galw D. M. Richards yn weinidog, a ddaeth yma o'r eglwys Seisnig ym Mhwilheli. Yn 1899 codi W. Eilian Davies yn bregethwr. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach na therfyn yr hanes hwn y syrthiodd cwsg ar John Griffith Plastirion, ac ym mhen rhai misoedd ar Hugh Owen yr Hafod, dau flaenor hynaf yr eglwys. Fe berthyn yma i ddweyd y bu'r blaenaf yn drysorydd yr eglwys am flynyddoedd maith.

Nis gellir olrhain cychwyniad yr ysgol yma. Tebyg na bu dymor maith cyn cychwyn ar ol yr hen ysgolion eraill; ac, os felly, yr ydoedd rywbryd, heb fod yn hir, ar ol 1794, er y gallai hynny yn hawdd fod yn rhai blynyddoedd. Yr oedd cymaint rhagfarn yn erbyn yr ysgol fel, mae'n diau, nad ydoedd ond eithaf gwan am flynyddoedd. Fe ddangosir hynny mewn han-