Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y tymor byr o hyny i ddiwedd ei oes, yn eglur i bawb. Bu farw yn lled sydyn, a theimlai yr eglwys a'r ardal fod gweithiwr difefl wedi myned i'w orphwysfa.

Y blaenoriai presenol ydynt, Mri. Hugh Vaughan, Morris Jones, David Humphreys, a Meyrick Roberts. Mae y Parch. John Owen wedi ymsefydlu yn weinidog yma er Mehefin 1885. O'r ardal hon y cyfododd y pregethwr cyntaf yn y Dosbarth, William Hugh, Llechwedd. Cychwynodd tri eraill wedi hyny o'r eglwys yma oddeutu yr un flwyddyn (1872), y Parchn. William Williams, Dinasmowddwy; David Jones, yn awr o Lanllyfni, ac R. W. Jones, yn awr o Towyn.

Y Parch Ebenezer Jones.—Yma y treuliodd yn agos i'r ugain mlynedd olaf ei oes. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi. Daeth i Gorris i gadw ysgol ddyddiol tua 1854. Ymhen ysbaid ar ol iddo briodi a myned i gadw teulu, rhoddodd yr ysgol i fyny, ac ymgymerodd â chadw shop yn yr ardal. Gwnaeth lawer o wasanaeth i grefydd yn Nghorris ac Aberllefeni a'r amgylchoedd yn ystod y 10 mlynedd y bu yn aros yno, gan fod gweinidogion a phregethwyr yn brinion y blynyddau hyn. Tra yn aros yn Nghorris yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yr hyn a gymerodd le yn Nghymdeithasfa Dolgellau yn y flwyddyn 1857. Y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, yr hwn oedd yn ei adnabod yn dda, a ddywed am dano: "Gorfuwyd ni lawer gwaith i deimlo gofid oherwydd rhyw bethau a wnai, ond ni chollasom i'r diwedd y gwir barch iddo, a'r serch calon tuag ato, â pha rai y meddianwyd ni tra yn aros o dan ei ddysgeidiaeth. Yr ydym yn teimlo parch calon i'w goffadwriaeth, a hyfryd ydyw genym ddwyn tystiolaeth i'w ddefnyddioldeb am lawer o flynyddoedd yn Nghorris a'r amgylchoedd. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i gadw cyfarfod eglwysig. Dysgasai lawer o'r Beibl allan pan oedd yn ieuanc, a thra anfynych yr adroddid adnod gan neb na fyddai ef yn gwbl gartrefol yn ei chysylltiadau. Dyfynai ar unwaith yr adnodau yn ol a blaen iddi, fel y rhoddai bawb mewn mantais i