Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei holl ymwneyd â'i gyd—ddynion. Byddai yn fynych o dan eneiniad yn ei gyflawniadau crefyddol. Daeth trwy oruchwyliaethau blinion heb golli ei grefydd. Bu farw yn orfoleddus, gan roddi cwbl sicrwydd ei fod yn meddu gwir dduwioldeb. Mr. Hugh Pugh, a ddechreuodd bregethu wedi hyny, ag sydd yn awr yn byw yn y Gwynfryn. Un arall a fu yn flaenor gweithgar yma yr adeg yr oedd yr eglwys yn dechreu lliosogi yn ei nifer oedd Mr. Evan Ellis, masnachydd. Symudodd oddiyma i Lanbrynmair, wedi hyny i Ffestiniog, ac oddiyno i'r America.

John Vaughan, Maesyllan.—Amaethwr cyfrifol oedd ef. Bu yn llenwi y swydd o flaenor am dymor lled faith; gwelodd amser gwan ac amser cefnog ar yr eglwys, ac yr oedd yn ddolen gydiol rhwng yr hen bobl â'r tô ieuanc presenol. Efe oedd y brif golofn o dan yr achos dros ysbaid o amser; gofalai am holl amgylchiadau yr achos, a chydweithiai yn esmwyth gyda'r brodyr, gan adnabod ei le priodol ei hun hyd y diwedd. Bu yn nodedig o ffyddlon, a dygodd ei deulu i fyny yn grefyddol, y rhai sydd a'u hysgwyddau eto yn dyn o dan yr achos. Yr adnod a adroddai yn brofiad yn y seiat yn fynych ydoedd, "Oblegid yr Aifftiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hyny."

Evan Evans, Bryneglwys.—Daeth yma o Ffestiniog, oddeutu y flwyddyn 1875, i fod yn oruchwyliwr chwarel Bryneglwys, ac yn fuan ar ol ei ddyfodiad dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys. Ymroddodd ar unwaith â'i holl egni i bob gwaith da yn yr ardal, ac enillodd barch a dylanwad mawr mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn ŵr o berchen ffydd gref, ac yn llawn o awyddfryd a zel gyda phob symudiad er llesoli ei gyd—ddynion, a meddai allu tu hwnt i'r cyffredin i gynyrchu yr un ysbryd ag oedd ynddo ef ei hun yn mhobl eraill. Tra yn byw yn Ffestiniog, llanwodd gylchoedd pwysig gyda chymeradwyaeth mawr yn y lle poblog hwnw. Ac wedi ei symudiad yma bu ei gynydd mewn crefydd a defnyddioldeb,