Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn ceisio esbonio a chynghori ychydig. Yr wyf yn cofio un tro yn y Bwlch, fod rhai yn dyfod i mewn ac yn myned allan ar hyd gydol y cyfarfod; deuent i'r golwg i weled pa beth yr oeddym yn ei wneuthur, ac wedi hyny, dychwelent ymaith. Yr oeddynt, debygid, mor anwybodus am gyfarfod gweddi, neu gyfarfod i addoli mewn tŷ annedd, a phe buasent byw yn Affrica."

Mewn adroddiad byr a ysgrifenwyd gan un o gyfeillion y Bwlch am ddechreuad yr Ysgol Sabbothol yn y lle, dywedir mai yn Tŷ Cerrig y dechreuwyd hi, ac mai Betti Lewis, gwraig y tŷ, oedd yn cario yr ysgol ymlaen; nid oedd neb ond y hi a fedrai ddarllen. Dywedir hefyd mai yn yr ysgol hon y bu Lewis Morris yn dysgu darllen ar ol ei dröedigaeth. A chaniatau fod hyn yn gywir, rhaid fod Ysgol Sul yn y Bwlch yn un o'r manau cyntaf yn y cylchoedd. Enwir y personau canlynol heblaw gwr a gwraig Tŷ Cerrig, fel y rhai fu a llaw gyntaf yn nechreuad yr Ysgol Sul:—John Vaughan, Tonfanau; William Dafydd, Llechlwyd; Edward Walis a Susan Walis, Bronclydwr; Sion Evan, Felinfraenen. Byddai y diweddaf yn myned o gwmpas y bryniau a'r caeau i gyrchu y plant i'r ysgol. Y mae coffa hefyd am Mr. Wallis hyd heddyw fel un a adawodd argraff dda ar ei gyd-oeswyr yn nechreuad crefydd yn y gymydogaeth. "Rhoddodd gyngor i mi a'm cyd-weision di-grefydd," ebai Owen Williams, Towyn, oedd ei hun yn llencyn o was gydag ef, "i beidio myned i Bryncrug nos Sabbath Gwylmabsant, Towyn; gwnaethom bob un o honom y cyngor, aethom i'n gwelyau, ac yr oedd ein cydwybod yn ddigon tawel pan ddeffroisom boreu dranoeth o ran halogi y nos Sabbath hono." Un o'r brodorion hynaf sy'n awr yn fyw a ddywed mai y tri cyntaf a ddechreuodd yr achos yn y Bwlch oeddynt, Dafydd Sion Jones, Sion Evan, Llechwedd Cefn, a William Dafydd, Llechlwyd. Ond yr oedd W. Dafydd yn rhy ieuanc i wneyd dim gyda'r achos pan ddechreuwyd pregethu yn yr ardal.