Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn breswylfod iddo ef a'i deulu. Ond troes Rhagluniaeth yn groes i'w fwriadau; cyn i'r tad orphen ei gynlluniau, bu farw ei fab, yn 22ain mlwydd oed, er dirfawr alar i'w rieni a phawb a'i hadwaenai. Yr ydoedd yn ŵr ieuanc gostyngedig a hynaws, a thra gobeithiol gydag achos yr Arglwydd Iesu. Daliwyd Mr. Vaughan ei hun hefyd gan afiechyd, yr hwn a'i caethiwodd yn gwbl i'w dŷ, ac ar ol nychdod maith bu yntau farw heb gael myned gymaint ag unwaith i'w dŷ newydd. Yn Methodistiaeth Cymru dywedir "Ni chafodd Mr. Vaughan ei hun fyned gymaint ag unwaith i'r capel newydd, yr hwn y bu mor bryderus yn ei godi." Camgymeriad yw hyn a lithrodd i mewn rywfodd. Yr hyn sydd gywir ydyw na chafodd fyned gymaint ag unwaith i'w balasdy newydd, sef Cefncamberth. Yn hen fynwent Celynin y mae yr hyn a ganlyn yn gerfedig ar gareg ei fedd—"Underneath lies, in hopes of a joyful Resurrection, the earthly remains of John Vaughan, Esq., late of Cefncumberth, who departed this life on the 14th day of February, 1816, aged 58 years." Wele yn canlyn ran o Alarnad a gyfansoddodd Dafydd Cadwaladr, o'r Bala, ar yr achlysur:—

GAIR O GYNGOR.

Er cysur i Mrs. Vaughan o'r Cefn-camberth, ar ol ei Gwr a'i Mab.

Mae gras y nef yn gweithio'n brysur,
I ddwyn pechadur tlawd i'r lan;
Fe gymer afael ar yr hên-wr,
A gafael ar y baban gwan;
A dyfod mae yn anwrth'nebol,
Yn llwybr glân yr arfaeth gref,
John Vaughan a'i wraig, a'i unig blentyn
A ddaliwyd yn ei afael ef.

Hwy fuont yma hir flynyddau,
'N ymborthi ar gibau gwael y moch;
Nes daeth t'ranau a mellt y gyfraith,
Ac udgorn Sina i waeddi'n groch;