Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Dafydd, Llechlwyd, ac Owen Evan, Tyddynmeurig, oeddynt y ddau flaenor cyntaf. Bu y personau canlynol hefyd yn gwasanaethu y swydd:—

Humphrey Pugh, Tonfanau. Gŵr deallus a gwybodus, yn eangach ei syniadau, ac yn fwy ei ddylanwad na'r cyffredin. Efe oedd arolygwr yr Ysgol Sul am flynyddau, a chyflawnodd y swydd yn dra deheuig; oherwydd ei sirioldeb a'i ddeheurwydd llwyddai i gael pawb yn yr ysgol yn ufudd i wneyd yr hyn a geisiai. Yr oedd yn aelod o gommittee y Cyfarfod Misol yn 1847.

Lewis Pugh, Bodgadfan. Un o ardal Aberllefeni oedd ef o'i ddechreuad, ac yr oedd wedi dod i gysylltiad â chrefydd er yn ieuanc. Gwnaeth amryw o symudiadau yn ei fywyd, o'r naill ardal i'r llall, a pha le bynag yı elai rhoddai ei ysgwydd yn dyn o dan achos y Gwaredwr, a llanwodd y swydd o flaenor ymhob lle y bu yn aros. Er ei fod yn ddyn blaenllaw gyda'r byd, ei hyfrydwch penaf fyddai siarad am bethau crefydd gyda'r teulu, gyda'r gwasanaethyddion, a chyda'i gymydogion. Siaradai lawer am bethau crefydd â'i briod, Mary Pugh, yr hon oedd yn wraig dra chrefyddol. Un oedd yn y teulu yn was a ddywed ei fod yn cofio L. Pugh yn gofyn i'w briod, "A oedd hi yn gweled rhyw werth yn Iesu Grist fel Proffwyd?" "O! ydwyf, Lewis bach," ebe hithau, "fuaswn i na chwithau yn gwybod dim am Dduw a'i ddeddf, a'i anfeidrol gariad a'i ras, nac am bechod a'i ganlyniadau, nac am y nefoedd ychwaith, oni bai fod y Proffwyd Mawr wedi mynegu y pethau hyn i ni." "A ydych yn gweled rhyw werth ynddo fel Offeiriad?" "O! ydwyf, fuasai genyf fi ddim gobaith am fywyd oni bai iddo ef fel offeiriad offrymu ei hun yn aberth difai i Dduw." "A ydych yn gweled rhyw werth ynddo fel Brenin?" "O! pwy wna ein harwain, a'n llywodraethu, a'n gwaredu ond efe fel Brenin." Deuai i'r tŷ i ymofyn bwyd un tro, a gofynai i lefnyn o fachgen oedd yno yn was, "A wyt ti, dywed, yn gweled rhyw werth yn Iesu Grist fel ffynon?" Ni wyddai y