Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bachgen beth i'w ddweyd, yna gofynai i'w wraig, "A ydych chwi, Mary, yn gweled gwerth ynddo fel ffynon?" "Wel, beth a wnaem ni yn ngwyneb ein llygredd mawr oni bai am y ffynon?" ebe hithau. Yna adroddai L. P. y penill:—

"Mae'r ffynon yn agored,
Dewch, edifeiriol rai."

Yr oedd yr hen bererin yn byw yn wastadol,—Sul, gwyl, a gwaith, gyda phethau crefydd. Byddai yn tori allan i orfoleddu wrth wrando pregeth, neu mewn unrhyw foddion y ceid tipyn o hwyl, ond yn fynychaf wrth ganu. Clywid ef yn gwaeddi, gogoniant,' 'gogoniant,' pan fyddai y gynulleidfa wrthi yn canu. "Clywais ef yn gorfoleddu," ebe un oedd yn bresenol, ar ddiwedd odfa pan oedd Daniel Jones, Llan— degai, yn y Bwlch yn pregethu ar ganol dydd gwaith, wrth ganu y penill hwnw:—

"Mae'r iachawdwriaeth fel y môr,
Yn chwyddo byth i'r lan."

Darfu i hen wraig arall ymuno âg ef, sef Margaret Jones, y Llabwst, a bu y ddau yn gorfoleddu, a'r gynulleidfa yn canu allan o bob hyd." Symudodd L. P. cyn diwedd ei oes i fyw i Dowyn, a dywed rhai o'r brodyr yno, na welsant neb erioed mwy duwiol nag ef. Mae ei deulu yn para ymysg y ffyddloniaid sydd eto yn aros yn y Bwlch.

Bu David Price, Bronyfoel, yn flaenor am lawer o flynydd— oedd; a Mr. Peter Price, Castell Fawr, cyn iddo symud i Aberdyfi.

Griffith Vaughan.—Mab ydoedd ef i Sion Fychan Fawr, Llwyngwril, a meddai ar zel a ffyddlondeb ei dad, Gwasanaethai fel husmon yn Cefncamberth yn amser Mrs. Vaughan, ac am flynyddau lawer ar ol ei dydd hi. Yr oedd ef yn ŵr hynod iawn ar ei liniau, yn enwedig pan y dechreuai sôn am drefn Duw i faddeu, ac y caffai afael yn yr adnod hono, "Pan ddarffo i'r Arglwydd olchi budreddi merched Sion, a charthu gwaed Jerusalem o'i chanol." Yr oedd un adeg wedi ei osod