Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn drysorydd yr eglwys, ac er mwyn cadw arian y weinidog— aeth yn ddiogel, ac ar wahan oddiwrth bob arian eraill, y lle y byddai yn eu rhoddi i gadw oedd yn y corn grut.

Samuel Evans.—Yr oedd yntau yn fab i hen flaenor enwog, Sion Evan, Tywyllnodwydd, Pennal, yr hwn y mae ei goffa— dwriaeth yn adnabyddus fel yr un a fu yn foddion i ddwyn achos y Methodistiaid gyntaf erioed i ardal Llanwrin, yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Dygwyd Samuel Evans i fyny ar aelwyd grefyddol, lle yr oedd ei rieni, a'i frodyr, yn gewri yn egwyddorion ac athrawiaethau crefydd. Hynodid ef yn ddi— weddar ar ei fywyd fel un fyddai yn mwynhau y weinidogaeth y tuhwnt i'r cyffredin, ac am ei gwestiynau aml a mynych i'r pregethwyr yn nhŷ y capel. Yn niwedd ei oes, gwrandawai ar risiau y pulpud, a'i olwg yn gyson ac astud ar y llefarwr, ac arwydd sicr o'i foddhad yn yr hyn a draddodid ydoedd y byddai yn estyn ei dafod allan, a chadwai hi allan yn ddidor tra parhai yr hwyl. O fewn blwyddyn nea ddwy i ddiwedd ei oes, yr oedd wedi myned yn angenrhaid arno i wynebu at y plwy' am help i fyw. Wynebai ef yno, modd bynag, am fod yn rhaid iddo wneyd, a chyda sicrwydd yn ei deimlad ei hun mai am ychydig amser yr oedd arno angen am gynorthwy. "Rhoddwch," meddai wrth y relieving officer, "rhoddwch help am dipyn bach; am dipyn bach y mae arnaf fi eisiau help; raid i chwi ddim rhoi yn hir, fe fydda i wedi myn'd i dderbyn teyrnas yn bur fuan." Mae Samuel Evans, er's deng mlynedd, bellach, wedi myned i dderbyn y deyrnas.

Y blaenoriaid presenol ydynt Mri. James Thomas, a William Jones.

BRYNCRUG.

Safle Bryncrug ydyw dwy filldir o Lanegryn, dwy filldir o Dowyn, a phump o Abergynolwyn. Mae yr enw yn dra phriodol ar y lle—yn ol Dr. Owen Pughe, Bryn-y-Twmpath, ac yn ol dywediad yr hybarch Lewis Morris, Bryn-y-Crwth.