Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyn, sef nain y Parch. G. Evans, Cynfal gynt, yn wraig grefyddol, ac yn aelod o'r eglwys fechan yn Bryncrug. Yr oedd hefyd yn wraig uwch ei sefyllfa yn y byd na'r cyffredin, meddai ar dipyn o etifeddiaeth, a phreswyliai mewn palasdy. Aeth hi i Ynysmaengwyn, at Mr. Corbett, i geisio ei berswadio i beidio erlid Mr. Foulkes, ac adroddai wrtho fod y pregethwr yn ŵr haelionus anghyffredin, y byddai yn llenwi ei bocedau â phres cyn cychwyn oddicartref ddydd Sadwrn, er mwyn eu rhanu i bobl dlodion. Gan fod Mr. Corbett yn ŵr haelionus ei hun, dylanwadodd hyn gymaint arno nes peri iddo beidio erlid. Mr. Foulkes mwy. Ond er mai yma bu yr erledigaeth ffyrnicaf, fe drefnodd yr Arglwydd foddion neillduol, ac fe gododd offerynau arbenig, fel y daeth yr achos yn gryfach a mwy llewyrchus yn Bryncrug nag unman arall yn yr ardaloedd o gwmpas. Un o'r offerynau, a'r penaf yn ddiau oedd John Jones, Penyparc. Yr oedd ei sefyllfa ef yn y byd, a'i ysgolheigdod, a'i fedrusrwydd, a'i ymroddiad gyda phob rhan o achos crefydd yn gaffaeliad mawr, nid yn unig i Fryncrug, ond. i'r dosbarth yn gyffredinol. Yr oedd hen ŵr arall, duwiol a da, o'r enw Evan y Melinydd, yn Dolaugwyn, ac yn cydgychwyn yr Ysgol Sul â John Jones, Penyparc. Meddai ar dalent arbenig i ddysgu plant. Un arall o'r offerynau a ddylanwadodd ar yr ardal ydoedd y wraig dduwiol Catherine Williams, yr hon a fu yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn holwyddori y plant mewn pethau crefyddol yn yr ysgol yn ddyddiol. Heblaw yr offerynau hyn, trefnodd yr Arglwydd foddion i gael lle i adeiladu capel yn Bryncrug yn gynharol iawn. Cafwyd y tir gan Mr. G. Evans, Dolaugwyn, taid y Parch. G. Evans, yn awr o Aberdyfi, priod yr hwn, fel y crybwyllwyd, oedd yn wraig gyfrifol a chrefyddol, ac yn aelod o'r eglwys yn Bryncrug. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1800, ar brydles o 99 mlynedd, am ardreth o ddeg swllt y flwyddyn. Mae y weithred wedi ei dyddio Medi, 1801. Yr ymddiriedolwyr oeddynt y Parchn. Thos. Charles, o'r Bala; John Jones, Edeyrn; John.