Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae hanes crefyddol yr eglwys hon yn cynwys llawer o addysgiadau. Yn y flwyddyn 1802, ymunodd Owen William, yr hen bregethwr a adnabyddid fel Owen William, Towyn, â'r eglwys yn Bryncrug, pan yn llanc 18 oed. "Nid oedd yn perthyn iddi y pryd hwnw," ebe efe, "ond dau heblaw fi heb fod yn wyr priod, sef Thomas Roberts, dduwiol iawn, Cae'r-felin, Llanwrin, ag oedd yn was yn Mhenyparc, a John Jones, llongwr, brawd y Parch. Hugh Jones, Towyn, ag oedd y pryd hwnw yn dilyn rhyw alwedigaeth ar y tir. Darfu i ni ein tri lunio cyfarfod i'w gynal yn wythnosol i'r diben o gynghori, rhybuddio, a dysgu ein gilydd, ac i'r naill ddywedyd wrth y llall bob peth a welem yn feius yn ein gilydd, ag y byddai yn dda diwygio oddiwrtho. Yr oeddym wedi ymrwymo o'r dechreu i dderbyn y naill gan y llall bob cyngor a cherydd a fernid yn angenrheidiol. Yr wyf yn meddwl i'r cyfarfod hwn ateb diben daionus; ond ni chefais i fod yno i'w fwynhau dros dri mis." Yr oedd rhieni y diweddar flaenor, Owen Williams, Aberdyfi, yn byw y pryd hwn yn Tŷ'n-y-maes. Ganwyd Owen Williams y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf, ac arferai ddweyd ei fod yn cofio ei fam neu forwyn yn ei gario pan yn bedair oed i'r Ysgol Sul i Fryncrug. Clywsom ef yn dweyd hefyd fod gan ei fam feddwl mawr iawn o'r capel oedd newydd ei adeiladu yno. Yr oedd capel yn beth hynod ddieithr yn yr amser boreuol hwn. Yr Ysgol Sul yn arbenig fu yn foddion i roddi terfyn ar y nosweithiau llawen a'r gwylmabsantau. Parhaodd y rhai olaf yn hwy heb lwyr ddarfod na'r rhai cyntaf. Digwyddodd, medd yr hanes, i ferch ieuanc o'r gymydogaeth, yr hon oedd yn fedrus mewn dawnsio, ddyfod ar brydnhawn Sabbath i un o'r gwylmabsantau; a chan na ddaeth cynulliad ynghyd, ac iddi weled drws y capel yn Bryncrug yn agored, aeth i mewn i'r capel at y cyfeillion oedd yno yn cadw ysgol, a chafodd dderbyniad caredig. Derbyniwyd hi yn aelod o'r ysgol, a pharhaodd yn aelod o honi tra y gallodd ymlwybro iddi. Cafodd oes faith i wneyd hyn, sef pedwar ugain a deng mlynedd.