Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn. Mor gynar a'r flwyddyn 1832, yr ydym yn cael enwau dau flaenor arall heblaw y rhai a nodwyd, sef—

John Williams, dilledydd wrth ei gelfyddyd. Dyn tawel, heddychlon, a zelog gyda chrefydd. Cymerai blaid y gwan, a byddai yn bwyllus with geryddu, a phob amser yn defnyddio adnodau o'r Beibl.

Thomas Lewis, gwr Mary Jones, yr hon a aeth i'r Bala at Mr. Charles i brynu Beibl. Un yn tueddu at fod ddiniwed ydoedd. Rhoddwyd disgyblaeth arno am ryw drosedd yn 1843. Ond dywed y rhai a wyddant am yr hanes mai bychan oedd y trosedd, a difwriad drwg ar ei ran ef, ond fel y byddai yr hen bobl yn arw am ddisgyblu am bob trosedd.

Owen Pugh hefyd oedd yn flaenllaw a gweithgar gyda'r achos, ac yn weddïwr mawr, ond nid wedi ei ddewis yn flaenor.

Yn Nghyfarfod Misol Pennal, Mawrth, 1811, derbyniwyd tri brawd arall yn flaenoriaid yn Bryncrug—Henry Jones, Gwyddelfynydd, yr hwn a ganmolid yn fawr fel dyn nodedig o ffyddlon gyda chrefydd. Dywedid pan oedd yn cael ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol ei fod yn cadw dyledswydd deuluaidd yn ei dŷ dair gwaith yn y dydd. Ymadawodd o'r ardal yn 1848, a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun, ac y mae arogl esmwyth ar ei ol hyd heddyw. Evan Evans a barhaodd yn ffyddlon gyda chrefydd hyd ddiwedd ei oes, a'i weddw a'i ferch a fuont ymhlith ffyddloniaid yr eglwys ar ei ol ef. John Jones, Geufron, sydd yn aros hyd y dydd hwn, ac eto yn un o flaenoriaid yr eglwys.

Griffith Pugh, Tynllwyn Hen, wedi hyny o Rydyronen, oedd yn flaenor yn Bryncrug. Bu fyw yn Llanfachreth cyn dyfod yma. Yr amser yr oedd dirwest yn dechreu, rhoddodd fenthyg ei wagen i gynal cyfarfod dirwest, er mwyn i'r areithwyr fyned iddi i areithio. Cafodd ei droi o'i dyddyn am hyny gan ei feistr tir. Gwnaeth amryw symudiadau ar ol gadael Llanfachreth, a bu farw yn Nolgellau.

Griffith Pugh, Berthlwyd. Yr oedd ef yn un o hen ysgol-