Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorff, ac o feddwl cyfatebol. Genedigol ydoedd o Roslan, Sir Gaernarfon. Yn Nghymdeithasfa Pwllheli, clywodd y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn yn pregethu, a dywedai ynddo ei hun, "Tybed a oes dim modd cael myned i weini i'r fath un." Cafodd ei ddymuniad ei gyflawni; symudodd i'r Dyffryn, Meirionydd, i wasanaethu am dymor byr i le a elwir Llecheiddior, ac wedi hyny bu yn was yn y Faeldref, gyda Mr. Humphreys am flynyddoedd, ac yno enillodd air da, a ffurfiodd ei gymeriad am ei oes. Wedi priodi yn y Dyffryn, symudodd. i Cefndeuddwr, yn ardal Trawsfynydd, ac yno y dechreuodd bregethu. Wedi hyny ymadawodd i ardal Bryncrug, i le o'r enw Tyn'reithin, ac wedi hyny i Bronyffynon, lle y gorphenodd ei yrfa, Gorphenaf 20fed, 1876, yn 59 mlwydd oed, wedi bod. yn pregethu oddeutu 34 mlynedd. Ordeiniwyd ef i gyflawn. waith y weinidogaeth yn 1869. Gweithiodd yn galed a diwyd trwy anhawsderau i enill bywoliaeth iddo ei hun a'i deulu, ac yr oedd erbyn diwedd ei oes wedi cefnu, fel y dywedir, ar y byd. Yr oedd yn gyfaill cywir, ac yn ddyn hynaws a hoffus yn ei gwmni. Ei brif nodwedd oedd ei grefydd. Nid yn hawdd y gellid cael gwell disgrifiad o hono na'r geiriau a roddwyd ar ei gerdyn coffadwriaethol, "Yr oedd efe yn ofni Duw yn fwy na llawer." Yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, a defnyddiai hanesion y Beibl i bwrpas yn ei bregethau, ac yn y cyfarfodydd. eglwysig. Nid oedd yn proffesu ei fod yn meddu dawn mawr, ond yr oedd yn meddu profiad uchel o'r gwirionedd. Cymysglyd fyddai y pregethu ganddo yn aml, ond ambell dro elai y tuhwnt iddo ei hun o nerthol. Cafodd rai cyfarfodydd nerthol wrth holwyddori yn gyhoeddus. Crybwyllir am ddau dro yn arbenig, yn Nghorris ac yn Mhennal. Yr angylion yn gwasanaethu i'r saint oedd ganddo yn y lle olaf. "A fydd yr angylion gyda mi yn myned adref heno, dros Mynydd. Bychan?" gofynai. Byddant," ebe y bobl, nes codi pawb i hwyl addoli. Pan fu farw yr oedd pawb o un feddwl yn ei roddi yn y nefoedd, ac yn teimlo yn hiraethus ar ei ol.