Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elias wrtho, "Dos ati hi eto fy machgen bach i, a phregetha dŷ oreu." Felly pregethu wnaeth hyd ddiwedd ei oes; ond bu llawer o ups and downs arno gyda'r gwaith. Yr ydoedd yn helbulus gydag amgylchiadau y bywyd hwn, a'r olwg arno yn llwydaidd. Yr oedd yn feddyliwr cryf, ac yn bregethwr pur alluog, a bu yn rhyfeddo! o boblogaidd ar rai tymhorau o'i fywyd, yn enwedig mewn rhai rhanau o Gymru. Ond yr oedd ei lais yn aflafar a'i ddull yn anhyfryd. Cyfansoddodd a chyhoeddodd amryw lyfrau, y rhai a ddangosant lawer o allu. Y mae llawer o'i hanes a'i ddywediadau ar gael, a phe cesglid hwy ynghyd byddent yn ddyddorol ac yn hynod. Bu yn wasanaethgar gyda'r achos yn Bryncrug dros ranau helaeth o'i oes. Byddai," ebe un, "yn cadw cyfarfod egwyddori gyda'r bobl ieuainc, a gwnaeth ddaioni mawr trwy hyny. Pwnc oedd ei beth mawr ef—cyfiawnhad, a sancteiddhad," &c. "Er nad oedd Owen William," ebe un arall o'i gymydogion, yn hyfryd yn y byd i wrando arno, yr oedd tuedd pur fawr ynddo at adeiladaeth." Bu farw Ebrill 15fed, 1859, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Salem, Dolgellau.

LLWYNGWRIL.[1]

Oherwydd fod Llwyngwril ar gŵr gorllewinol y Dosbarth, ac heb fod nepell o'r Abermaw, fe drosglwyddwyd y tân dwyfol o'r tuhwnt i'r Afon Mawddach yn gynt, ac fe ddechreuwyd pregethu yma beth yn gynarach na'r ardaloedd cylchynol. Fe gafodd yr ardal y breintiau yn gyntaf, yn unig am fod ei sefyllfa ddaearyddol yn nes i'r Abermaw, o'r lle yr oedd y breintiau yn dyfod. Ymhob ystyr arall, ardal anghysbell ydoedd, a phobl yn preswylio eu hunain oedd ei phreswylwyr i fesur mawr cyn gwneuthur Rheilffordd Glanau Cymru. Ac fel gwledydd anghysbell yn gyffredin, yr oedd mwy o waith gwareiddio ar ei phreswylwyr hi. Bu amser pryd yr oedd

  1. Yn 1886, aeth Llwyngwril i berthyn i Ddosbarth Ysgolion Dolgellau