Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich ewyllys da i mi er pan fum gyda chwi [enwa Mr. D. Davies, Mr. Griffiths, a Mr. C. Lewis wrth eu henwau], ac yn neillduol am fy ngalluogi y chwarter hwn o'r flwyddyn â modd i gael fy nghynhaliaeth, i ddysgu yr anwybodus yn y pethau a berthyn i'w tragwyddol iachawdwriaeth, yr hyn yr wyf yn ei weled yn rhagorfraint i mi fwy nag a fedraf byth ei draethu.

"Hyn sydd oddiwrth eich annheilyngaf was,
"LEWIS WILLIAM."

Ysgrifena amryw lythyrau yn y flwyddyn 1812 at yr Ymddiriedolwyr, yn y rhai y rhydd eglurhad ar ei ddull o dderbyn yr ysgolheigion, yr addysg a gyfrenid, a disgyblaeth yr ysgol yn Llwyngwril.

"Yn eglurhad o'm dull at rai ar eu dyfodiad cyntaf i gynyg eu hunain i fod yn aelodau o'r Ysgol Rad, byddaf yn eu holi, a wnant hwy ymddwyn yn barchus, ac ufudd, ac ymdrechgar tuag at y pethau yr ydys yn ei ofyn oddiwrth Reolau yr Ysgol. Byddaf yn gofyn iddynt y cwestiynau canlynol— A ydynt yn rhoddi eu hunain i'm gofal i, i'w haddysgu yn y pethau a fyddaf yn ei weled fwyaf buddiol iddynt, er eu hadeiladaeth ysbrydol, a'u budd tymhorol; a wnant hwy fod yn ufudd yn yr hyn a ofynir ganddynt hyd eu gallu; a wnant hwy gydymagweddu a'r ysgolheigion eraill mewn canu, egwyddori, a gweddïo; a wnant hwy ddysgu Catechism yr Eglwys, ynghyd âg esboniad Mr. Griffith Jones arno; a fydd iddynt ddyfod i'r addoliad cyhoeddus bob Sabbath oni fydd rhyw achos cyfreithlon yn eu hatal; a wnant ateb yr offeiriad yn barchus a defosiynol yn ngwasanaeth yr Eglwys. A fydd iddynt ymdrechu cofio rhyw ran o'r pethau a glywsant yn yr addoliad; a wnant ymneillduo oddiwrth gyfeillach y rhai afreolus, anfucheddol, ac annuwiol; a wnant hwy ddysgu gweddïau i'w dweyd o flaen bwyd, ac ar ol bwyd; a fydd iddynt beidio esgeuluso un amser; a fydd iddynt dderbyn cerydd am eu beiau yn ol fel y bernir y bydd yr achos yn gofyn; a fydd