Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byw yn y pentref, yr hwn a roddai gwrw i ryw greadur haner call, am aflonyddu yr addoliad, a dywedir i Lewis Morris gael ei drin yn annuwiol rai troion yno,' ynghyd â rhywrai eraill."

Y mae yr hanes canlynol hefyd am yr un teulu, yr hwn y mae yn amlwg a ddigwyddodd ychydig yn flaenorol i 1795, yn ddyddorol:—

"Ni ddiangodd yr ardal hon yn llwyr oddiwrth ymosodiad y boneddwr y soniasom uchod am dano. Anfonodd, medd yr hanes, ddau geisbwl a writ ganddynt i ddal nain (?) Cadben Humphreys, ymysg eraill o grefyddwyr y fro. Yr oedd yr hen wraig yn byw mewn tŷ yn ymyl Peniarth, a chafodd wybodaeth trwy ryw foddion, fod y cyfryw rai yn dyfod i ymofyn am dani. Anfonwyd hi, gan hyny, i dy arall, lle yr oedd gwr a gwraig yn proffesu, ac yn denant i wr Peniarth. Bu y ddau geisbwl am ran o ddau ddiwrnod yn gwibio o amgylch y gymydogaeth, yn chwilio am dani, ac yn methu ei chael. Prydnhawn yr ail ddiwrnod, aeth Mr. Humphreys atynt, gan ofyn iddynt,—

'Pa beth, wyr da, sydd arnoch eisiau? Yr ydych yn bur debyg i ladron, neu ddynion yn llygadu am gyfle i wneyd drwg!

'Na, nid lladron m'onom,' ebe hwythau.

'Pa beth, ynte, all fod eich neges yn gwibio o amgylch tai pobl, os nad ydych ar feddwl drwg?'

'Y gwir ydyw,' ebe y dynion, 'y mae genym wŷs oddiwrth Mr. C——t, i ddal eich mam-yn-nghyfraith.'

Ni choeliai i ddim,' ebe yntau, 'nad esgus ydyw hyn a ddywedwch, i guddio eich drygioni; o leiaf ni choeliaf chwi, os na chaf weled y wŷs?'

Rhoddwyd y wŷs iddo i'w darllen, yntau a'i cymerodd ac a'i cadwodd gan fyned tua'r pentref, a'i dynion yn ei ganlyn, ac ofnent ymosod arno gan ei fod yn gryf o gorff, ac o gryn ddylanwad yn y gymydogaeth. Bu hyn yn foddion i ddyrysu yr amcan ar y pryd, ac yn fuan ar ol hyn, gosodwyd y