Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pryd hwn-Robert Morgan, Lewis William, Llanfachreth, a Dafydd Rhisiart. Diameu i bob un o'r tri fod yn gefnogol i gychwyn a chynal yr Ysgol Sabbothol. Un o'r hen bobl a ddywedai mai yr hyn fu'n gymhelliad i'r rhai a ofalent am yr achos i feddwl am yr Ysgol Sul ydoedd, dymuniad i gadw y plant rhag gollwng dros gôf yr hyn a ddysgasai Dafydd Rhisiart iddynt. Yn 1800 y bu Lewis William yn Nghorris y tro cyntaf. Oherwydd yr awydd angerddol oedd yn llosgi yn ei natur ef gyda'r gwaith hwn, ni allasai aros dri mis yn unlle heb godi Ysgol Sul. Y geiriau canlynol a roddant oleuni am y rhan a gymerodd ef yn y gwaith yma hefyd, "Bu y brawd Lewis Williams, Llanfachreth, yn llafurus a llwyddianus iawn, pan oedd yma, i gynorthwyo ein tadau i sefydlu Ysgol Sabbothol yn ein plith." Tueddir ni yn gryf i gredu mai efe a roddodd gychwyniad i'r Ysgol Sul mewn trefn reolaidd, a hyny yn 1800. Hen chwaer grefyddol-Jane Roberts, Shop Newydd-a adroddai bum' mlynedd yn ol iddi hi fod yn perthyn i'r Ysgol yn yr Hen Gastell, pan yn eneth pur ieuanc. "Ychydig iawn," ebe hi, "oedd eu nifer y pryd hyny. Yn eu plith, ac yn benaf o honynt, yr oedd Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Sion Richard, a'u gwragedd, ynghyd âg Humphrey Dafydd. Yr oedd yno hen lanc hefyd, o'r enw Edward Meredith, yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r Ysgol." Yn ol y cyfrifon a dderbyniwyd yn 1821, yn y Cyfarfod Ysgol, y lle a ddysgodd fwyaf allan ydoedd Ysgol Corris. Tua yr un amser bu ymweliad â'r Ysgolion. Yr hyn a ddywedir am Ysgol Corris yn yr Adroddiad ydyw,—"Nid oes dim i'w ddweyd am yr Ysgol hon, ond ei bod yn esiampl i holl Ysgolion y cylch." Parhaodd trwy y blynyddoedd, a pharha hyd yn awr i feddu yr un cymeriad, o ran teyrngarwch, gweithgarwch, a chydweithrediad â threfniadau y cylch, a holl gylchoedd y Cyfundeb. Ni adeiladwyd capel yn Nghorris am fwy nag 20 mlynedd ar ol dechreuad yr achos. Yr oedd yr Hen Gastell wedi ei gofrestru, a theimlid pob diogelwch bellach i bregethu