Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hail ddechreu hi o'r newydd heno eto." "Twt, twt, twt," ebe Dafydd Humphrey, "y peth gwiriona' glywais i 'rioed; ail ddechra, ail ddechra, o hyd, o hyd! Mi wnes i gyfamod â'r Gwr unwaith yn y dechra, a gloewi'r cyfamod, gloewi'r cyfamod, y bydda i byth wed'yn. Pa eisio ail ddechra o hyd, o hyd! Twt, twt, twt!" Byddai yn mwynhau y weinidogaeth yn anarferol, porthai gwasanaeth a chwarddai a diolchai yn orfoleddus bob yn ail. Gwyliai y gynulleidfa hefyd, ac edrychai pwy fyddai yn teimlo dan y weinidogaeth. "Sylwai yn moddion gras pwy fyddai yn cael ei nodi dan y gair; yna, äi yn ddioed i ymofyn am y cyfryw i'r tŷ, gan ddweyd wrtho, Tyred, y mae efe yn dŷ alw di.'" Y mae hanes D. H. yn ei ddyddiau olaf yn dangos ei fod yn marw fel y bu fyw. Ei genadwri olaf at yr eglwys gyda dau o'r blaenoriaid ydoedd,— Dywedwch wrthynt oll am ymofyn am grefydd dda; mae crefydd llawer yn darfod yn angau." Wrth ei wyrion, y rhai y pryderai yn eu cylch dywedai, Byddwch fyw yn dduwiol; rhodiwch ar hyd canol llwybr barn. Gweddïwch a gwyliwch rhag i chwi byth adael eglwys Dduw." Ddeuddydd cyn ei farwolaeth, "galwodd am y brawd Rees Jones, Bermo (Y Parch. Rees Jones, Felinheli, wedi hyny), at ei wely a dywedodd wrtho; "Mewn perthynas i'r cyfeiliornadau sy'n codi y dyddiau hyn ynghylch gwaith yr Ysbryd Glan, dymunaf i chwi adael chwareu teg i'r TRI ddyfod i'r maes yn iachawdwriaeth pechadur. Cedwch ddigon o glychau o'u deutu; a gweddiwch lawer na chaffoch byth eich gollwng i'r fath dir a gwadu yr angen am ei waith." Bu farw Rhagfyr 19, 1839, yn 83 mlwydd oed.

Richard Anthony oedd un o flaenoriaid cyntaf Corris. Efe am amser oedd clochydd Talyllyn,——a dywedir iddo y pryd hwnw roddi terfyn hollol ar gyhoeddi arwerthiadau yn y fynwent ar y Sabbath. Gwr bychan o ddoniau, ond llawn o zel a ffyddlondeb.

Lewis Pugh, a Shon Rhisiard, Hen Shop. Symudodd