Lewis Pugh oddiyma yn lled gynar. Bu yn trigianu mewn amryw ardaloedd, a dewiswyd ef yn flaenor eglwysig ymhob man lle yr elai, ac y mae son am dano fel un o'r rhai duwiolaf yr amseroedd hyny. Nid oedd S. R. yn flaenor, ond llanwodd le pwysig yn moreuddydd crefydd yn yr ardal. Meddai ar wybodaeth a donian mwy na rhai o'r blaenoriaid, ac yr oedd yn weddïwr heb ei fath. "Mi hoffwn, Dic bach," meddai unwaith wrth Richard Anthony, "allu gweddïo nes gwneyd plwy' Talyllyn yma yn nefoedd i bawb o'i fewn." Y rhai nesaf a etholwyd yn flaenoriaid oeddynt Humphrey Davies, a Rowland Evans, Aberllefeni, ond fe ddeuant hwy i gael sylw mewn penod arall.
Richard Owen, Ceiswyn, oedd un o'r ail dô o flaenoriaid. Daeth i fyw o ardal y Dyffryn, a bu ei ddyfodiad i Gorris yn gryfder i'r achos. Er fod ganddo bedair milldir o ffordd i'r capel, yr oedd ei ffyddlondeb yn dilyn y moddion yn ddiarebol, Edrychid ato yn barhaus gan yr eglwys fel gwr craff, doniol a gwybodus. Pan y symudodd i Bennal, teimlid fod bwlch mawr yn Nghorris ar ei ol. Ymhlith pethau eraill, adrodda y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, y sylw canlynol am dano,—"Daeth ei ddesgrifiad o Humphrey Davies, a Rowland Evans, yn cadw society yn dra adnabyddus; a theimlai pawb a'u hadwaenent nas gallesid cael ei gywirach. Dyna ddyn yn y gors.' Cynllun R. E. ydyw myned ato i wrando ei brofiad, i gydymdeimlo âg ef, ac i'w gysuro; ond cynllun H. D. ydyw sefyll ar y lan a gwaeddi arno, 'Dyna gareg yn dŷ ymyl, dyro dŷ draed arni, a thyr'd oddiyna.'"
William Jones, Tan'rallt. O Lanllyfni y daeth ef i'r ardal hon, ac yma yr ymunodd âg eglwys Dduw. Yr oedd yn oruchwyliwr ar un o'r chwarelau, ac fel y cyfryw yn ŵr cyfrifol, ac yn llenwi lle pwysig. Cadwodd ei le, mewn byd ac eglwys, yn ddifrycheulyd. Ymddengys mai nid yn y rhan gyhoeddus o'r gwaith yr oedd ef fwyaf yn y golwg. Arno ef y gorphwysai dwy gangen bwysig o waith blaenor—y swydd o drysorydd