Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrtho. Efe oedd tad yr achos dirwestol yn Nghorris. Yr ydoedd yn daranwr yn erbyn meddwdod; yn areithiwr mor rymus a nerthol, fel yr ymunai pawb â dirwest a'u clywent ef unwaith. "Morris Jones, y pregethwr, oedd y dirwestwr cyntaf, ac ymunodd ychydig ag ef cyn cael cyfarfod." Nid yn unig efe a ardystiodd â'i law gyntaf, ond efe, mae'n ymddangos, oedd y cyntaf a'r mwyaf ei ddylanwad o blaid yr achos da hwn yn y cychwyn cyntaf yn yr ardaloedd. Torodd allan hefyd yn bregethwr grymus ar unwaith. Meddai ar allu meddyliol, cryf; ymroddodd i ddiwydrwydd a llafur dirfawr; perthynai i'w ysbryd ireidd—dra a difrifwch anghyffredin, a thrwy y pethau hyn, yr oedd y wlad wedi dyfod i gredu ei fod yn wr amlwg yn llaw yr Arglwydd i wneuthur daioni. Tra rhyfedd a dieithrol oedd y difrifwch a'r dylanwad a ddilynai y bregeth olaf a draddododd yn Llanwrin, y nos Sabbath olaf cyn ei farwolaeth. Y dydd Llun canlynol y cyfarfyddodd a'r ddamwain. Mae y bregeth ragorol hon wedi ymddangos yn y Drysorfa, ac yn llyfr y Parch. G. Ellis, M.A. Gadawodd bywyd, a gwaith, a marwolaeth Morris Jones ddylanwad ar y wlad a barhaodd yn hir yn ei effeithiau.

Robert Lumley. Dyn da, egwyddorol, a di-dderbyn-wyneb, a blaenor ymroddgar. Yr oedd yn glir ei syniadau am athrawiaethau crefydd, ac yn dra chrefyddol ei ysbryd. Symudodd i Abergynolwyn, a dewiswyd ef yn flaenor yno. Bu ystormydd anghydfod yn ysgwyd yr eglwys hono yn ei amser ef, ond daliodd Robert Lumley ei afael yn dyn yn ei grefydd, a bu farw yn orfoleddus.

Richard Jones, Blue Cottages. Gellir dweyd am dano ef yn ddibetrus ei fod yn "wr defosiynol ac yn ofni Duw." Heb fod yn fawr o allu na doniau, ond prydferth dros ben ei gymeriad. Rhoddodd dystiolaeth eglur i'w gymydogion mai pethau crefydd oedd ei bethau blaenaf, a bod gwasanaethu crefydd yn hyfrydwch mawr iddo. Wedi i'r hen flaenoriaid gael eu symud gan Ragluniaeth, disgynodd llawer o'r gwaith arno ef