Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra nad oedd ond blaenor lled ieuanc, a gogwyddodd yntau ei ysgwyddau ar unwaith i dderbyn y gwaith. Un o'r rhai mwyaf hyfryd yn gwrando'r Gair ydoedd; un o'r rhai goreu am gyngor i ieuenctyd, a'r mwyaf ei zel gyda phob rhan o waith yr Arglwydd. Rhoddir y dyfyniad canlynol fel engraifft deg o'i sylwadau yn y cyfarfod eglwysig nos Sabbath:—

"'Roeddwn i yn teimlo wrth wrando y buaswn yn mentro y Gwr pe buasai gen i fil o eneidiau. Mi fuaswn yn eu rhoddi iddo bob un. A bron nad oeddwn i, fel y clywais i am un, yn dymuno eu bod genyf er mwyn eu rhoddi iddo."

Bu Mr. Robert Evans yn flaenor gweithgar yma cyn iddo symud i lawr i Gorris; a Mr. E. Jones, Ffynonbadarn, cyn iddo yntau symud i Bethania.

Cyfodwyd tri i bregethu o eglwys Aberllefeni—y Parchedig G. Ellis, M.A., Bootle, yr hwn a dderbyniwyd fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, Hydref, 1863; y Parch. John Owen, yn awr o Aberdyfi, a'r Parch. John Owen Jones, Llanllechid, Arfon.

Y gweinidog a fu mewn cysylltiad bugeiliol â'r eglwys hon gyntaf mewn undeb â Chorris ydoedd y Parch. Evan Jones, yn awr o Gaernarfon. Bu yma o 1868 i 1872. Ar ei ol ef, bu Mr. D. Ifor Jones yn cymeryd gofal yr eglwys am oddeutu blwyddyn. Wedi hyn, bu y Parch. John Owen yn weinidog yma a'r Alltgoed yn unig, o Mehefin 20fed, 1882, hyd ddiwedd Rhagfyr, 1885. Ac y mae y Parch. R. J. Williams, gynt o Ffestiniog, wedi ymsefydlu yma er dechreu 1887.

Y blaenoriaid ydynt, Mri. William Ellis, William Lewis, Evan Griffith, Hugh Evans, David Thomas, Morgan Morgan.

YSTRADGWYN.

Pantle ydyw Ystradgwyn, tua thair milldir o Gorris, wrth dalcen uwchaf llyn Talyllyn, ac wrth droed Cader Idris. Lle enwog am chwareu ac ofer-gampau yr oes cyn codi yr Ysgol Sabbothol oedd Mawnog Ystradgwyn. Gelwid gwastadedd yr